Mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn cadw'n ddiogel yn ystod y sefyllfa bresennol, ac yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth. Ar yr un pryd, gadewch i ni gofio am yr amgylchedd lleol a chriwiau casglu gwastraff Cyngor Sir Ceredigion.

Mae masgiau a menyg sydd wedi'u gollwng ar hyd y lle yn peri risg i fywyd gwyllt, casglwyr gwastraff a'r cyhoedd. Felly, fel rhan o Caru Ceredigion, helpwch i'w cadw'n ddiogel a chadw’n cefn gwlad hardd, ein traethau a’n strydoedd yn lân trwy wneud y peth cywir.

Ni ddylid gollwng masgiau, menyg, hancesi papur, nac unrhyw wastraff personol arall na ellir ond eu defnyddio unwaith, ar hyd y lle, ac nid oes modd eu hailgylchu. Dylid eu rhoi yn y gwastraff na ellir ei ailgylchu ac sy’n cael ei roi yn y ‘bag du’. Dylid rhoi bag du ychwanegol o amgylch y bagiau du sy'n cynnwys yr eitemau hyn cyn eu rhoi allan i'w casglu.

Pan ydych chi allan ar hyd y lle, gwaredwch yr eitemau hyn yn y biniau sbwriel gwastraff cyffredinol. Cyn bo hir bydd arwyddion sy'n dweud hyn yn ymddangos ar finiau sbwriel yng nghanol trefi Ceredigion.

Helpwch i gadw Ceredigion yn ddiogel. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk. Ewch i dudalen gwe Coronafeirws i gael yr holl gyngor a gwybodaeth leol ddiweddaraf sy'n gysylltiedig â’r Coronafeirws.

17/11/2020