Yn sgil cwymp parhaus yn nifer yr achosion o’r haint coronafeirws, daw newidiadau pellach i rym er mwyn llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru.

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, diddymir yr angen i aros yn lleol, a daw’r newid hwn i rym ddydd Llun, 06 Gorffennaf.

Wedi hyn, ni fydd pobl yn cael eu cyfyngu i aros o fewn pum milltir i’w cartref.

Gwneir newidiadau hefyd i’r rheoliadau er mwyn caniatáu i ddau gartref ffurfio ‘un cartref estynedig’.

Bydd hyn yn galluogi cartrefi i gyfarfod tu mewn ac aros dros nos, heb unrhyw gyfyngiad ar niferoedd. Dim ond i un cartref estynedig y gall pobl berthyn, ac unwaith y penderfynir ar y cartref hwnnw, ni fydd modd ei newid. Golyga’r newidiadau y gall pobl gael cyswllt corfforol â’i gilydd, gwneud ymarfer corff, coginio, a bwyta yng nghwmni ei gilydd ac aros yn nghartrefi ei gilydd.

O dan y rheolau hyn, os bydd unrhyw aelod o gartref estynedig yn datblygu symptomau bydd holl aelodau’r ddau gartref yn gorfod hunanynysu.

Mae Ceredigion wedi gwneud yn dda iawn hyd yma i gadw niferoedd yr achosion o’r haint coronafeirws yn isel. Fodd bynnag, nid yw’r newidiadau hyn yn golygu bod y feirws wedi diflannu ac mae’n rhaid i ni barhau i fod yn ofalus ac yn wyliadwrus. Hyd yn oed gyda’r newidiadau hyn, nid yw’n golygu bod yr haint coronafeirws wedi’n gadael.

Mae cyfrifoldeb arnom o hyd i gadw pellter cymdeithasol, ymarfer hylendid dwylo da a meddwl yn ofalus i ble rydym yn mynd a pham. Anogir preswylwyr i aros yn lleol ac i gefnogi mentrau lleol lle bo hynny’n bosibl.

Wrth barhau i weithredu, byddwn yn cadw Ceredigion yn ddiogel. Os penderfynwn grwydro ymhellach, mae’n rhaid i ni barchu’r llefydd a’r cymunedau yr ymwelwn â hwy, yn union fel yr ydym wedi ei wneud mor dda yn lleol. Byddwn yn gofyn hefyd i ymwelwyr â Cheredigion i barchu ein cymunedau ac i gadw pellter cymdeithasol ar bob adeg.

Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan y Cyngor.

Yn ystod yr adolygiad nesaf ar 9 Gorffennaf, bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried ystod o opsiynau penodol ar gyfer ailagor y sector lletygarwch (bariau a thai bwyta) y tu allan o 13 Gorffennaf ymlaen, llety gwyliau hunan-gynhaliol o 11 Gorffennaf ymlaen, yn ogystal â thrin gwallt drwy apwyntiad.

03/07/2020