Fore Sul, 18 Ebrill, cafwyd siom o weld sbwriel a adawyd ar ôl cynulliad cymdeithasol ar draws y llwybr, y meinciau a’r traeth yn Aberaeron. Gadawyd poteli gwydr, caniau cwrw a chynwysyddion tecawê, gan beri risg sylweddol i fywyd gwyllt, bywyd y môr, pobl a'u hanifeiliaid anwes.

Mae'r math hwn o ymddygiad yn wrthgymdeithasol ac yn anghyfreithlon. Mae'n ymddygiad anghyfrifol ac annerbyniol gan oedolion ac mae'n gosod esiampl wael i blant.

Roedd grŵp a oedd yn cynnwys aelod o'n tîm Glanhau Strydoedd a gwirfoddolwyr yn brysur fore Sul yn clirio'r llanastr, a chasglwyd 12 bag bin yn y diwedd. Rydym yn ddiolchgar am gymorth y gwirfoddolwyr hyn a neilltuodd eu hamser fore Sul, ond ni ddylent orfod treulio eu hamser yn clirio ar ôl gweithredoedd diofal pobl eraill.

Rydym wedi cynyddu nifer a/neu faint biniau sbwriel mewn nifer o'r lleoliadau arfordirol mwyaf poblogaidd. Mae ein tîm bach o lanhawyr strydoedd a thraethau yn gweithio'n galed saith diwrnod yr wythnos ac mae'r biniau'n cael eu gwagio'n amlach i adlewyrchu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn y lleoliadau hyn.

Fodd bynnag, mae'r hyn a welwyd yn Aberaeron yn dangos na wnaed unrhyw ymdrech i glirio a dod o hyd i fin. Er mwyn cadw Ceredigion yn lân, mae angen cefnogaeth yr holl drigolion lleol ac ymwelwyr arnom. Mae hyn yn golygu pobl yn defnyddio biniau sbwriel os oes un ar gael neu'n mynd â'u sbwriel adref gyda nhw os nad oes un ar gael. Mae'n syml iawn a gall pawb ei wneud!

Yn rhan o Caru Ceredigion mae angen i bawb wneud eu rhan i sicrhau bod Ceredigion yn parhau i fod yn lle gwych i fyw ac ymweld ag ef yn ogystal â chynnal y proffil cadarnhaol y mae'n ei haeddu.

20/04/2021