Bydd sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal ar draws Ceredigion wrth i'r cyngor gasglu gwybodaeth er mwyn helpu llywio strategaeth economaidd newydd ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Mae'r sesiynau galw heibio wedi'u hanelu at fusnesau Ceredigion a byddant yn casglu eu barn ar sut y gall y cyngor eu cefnogi yn y dyfodol.

Mae proses yn mynd rhagddo i ymgynghori ar ddatblygu Strategaeth Economaidd newydd. Mae arolygon ar-lein eisoes wedi'u lansio ac yn cael lefel dda o ymateb. Bydd gwybodaeth o'r sesiynau galw heibio ar gyfer busnesau yn cael ei ddefnyddio ar y cyd ag ymatebion yr arolwg i helpu swyddogion y cyngor i ysgrifennu'r Strategaeth Economaidd.

Mae'r tabl isod yn dangos gwybodaeth ynghylch pryd y cynhelir y sesiynau:

Dyddiad

Lleoliad

Amser

28.01.2020

Gwesty Llety Parc, Aberystwyth

4-7pm

29.01.2020

Theatr Mwldan, Aberteifi

4-7pm

03.02.2020

Clwb Rygbi Llambed

4-7pm

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Mae hybu'r economi yn un o'n blaenoriaethau corfforaethol. Rydym am ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu busnesau yng Ngheredigion a chasglu barn ar sut y gallwn greu amgylchedd lle gall y sector preifat ffynnu.

“Os oes gennych fusnes yng Ngheredigion neu os ydych yn ystyried dechrau un, rwy'n eich annog i fynd i un o'r sesiynau. Rydym am wybod sut rydych chi’n credu y gallwn helpu eich busnes.”

Cysylltwch â Meleri Richards ar 01545 572066 neu meleri.richards@ceredigion.gov.uk am fwy o wybodaeth. Nid oes angen i bobl archebu slot na chadarnhau presenoldeb.

Gall preswylwyr ddilyn y ddolen i gymryd rhan yn yr arolygon: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/strategaeth-economaidd-ceredigion-2020-2035/. Mae copïau papur o'r arolygon ar gael o lyfrgelloedd yn y sir. Mae'r arolygon yn cau ar 31 Ionawr 2020.

14/01/2020