Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordirol arfaethedig yn Aberystwyth gyda digwyddiadau i chi roi eich barn.

Yn hanesyddol, effeithiwyd ar Aberystwyth gan lifogydd o’r arfordir ac o afonydd. Tra bod gwaith i uwchraddio rhai amddiffynfeydd afon wedi digwydd, ni fu unrhyw uwchraddiadau diweddar i amddiffynfeydd y môr.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Mae digwyddiadau storm difrifol diweddar wedi gweld niwed i'r amddiffynfeydd arfordirol a symiau mawr o dywod, cerrig a dŵr wedi'u taflu i fyny i'r Promenâd a Glan-y-môr/Rhodfa Fuddug. O ganlyniad, rydym yn sylweddoli bod angen i ni wella'r seilwaith er mwyn osgoi niwed gormodol yn ystod digwyddiadau ac felly rydym yn bwriadu cryfhau amddiffynfeydd y môr. Dyma'r cyfle i roi barn ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol arfaethedig ar gyfer Aberystwyth.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru wedi ariannu creu Achos Busnes Amlinellol i edrych yn fwy manwl ar yr amddiffynfeydd arfordirol ac i ddod o hyd i opsiynau posibl.

Mae'r Cyngor wedi bod yn edrych ar sut y gellid gwella'r amddiffynfeydd arfordirol. Y prif nodau yw gwella diogelwch rhag codi lefelau môr a digwyddiadau storm. Hefyd, i ddiogelu pobl ac eiddo, a rhoi rhywfaint o sicrwydd i drigolion a busnesau fod mesurau digonol ar waith i atal llifogydd o'r môr.

Dewch draw i gael sgwrs a gweld y cynlluniau mewn un o ddau ddigwyddiad yn y Bandstand, Promenâd Aberystwyth ar: ddydd Mercher, 03 Hydref 2018 rhwng 12 canol dydd ac 8yh ac ar ddydd Iau 04 Hydref 2018 rhwng 9yb a 4.30yp.

Yn ogystal ag ystyried y syniad am wella'r amddiffynfeydd arfordirol presennol, bydd cyfle hefyd i weld syniadau eraill ar gyfer y promenâd.

Os na allwch fynychu'r digwyddiadau a hoffech ragor o wybodaeth a rhoi eich barn, gallwch ymweld â: www.ceredigion.gov.uk/ymgynghoriadau. Mae'r amser ar gyfer rhoi eich barn ar agor o 03 Hydref tan 09 Tachwedd 2018.

24/09/2018