Eleni, cynhelir Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar ddydd Iau, 21 Tachwedd 2019.

Pwrpas y diwrnod hawliau gofalwyr yw grymuso gofalwyr i geisio cael cydbwysedd rhwng eu bywyd y tu allan i’w rôl ofalu a’u rôl ofalu barhaus, a hynny drwy wneud yn siwr fod Gofalwyr yn gwybod eu hawliau.

Hoffai’r Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion a’i phartneriaid eich gwahodd i ddigwyddiad am ddim ar ddydd Iau 21 Tachwedd 2019 yn Ganolfan Hamdden Llambed, Peterwell Terrace, Llambed, SA48 7BX.

Mae'r Uned Gofalwyr yn cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth a byddwch yn cael cyfle i siarad â gweithwyr proffesiynol ar sail un i un a chymdeithasu gyda gofalwyr eraill dros baned o de a chacen.

Mae gofalwyr yn darparu gofal di-dâl drwy ofalu am aelod o'r teulu, cyfaill neu bartner sy'n sâl, yn eiddil, yn anabl neu'n cael trafferth gydag anhwylderau bwyta, iechyd meddwl, cyffuriau, alcohol, neu ddibyniaeth arall. Bob dydd mae 6,000 o bobl yn dechrau gofalu. Gall ddigwydd yn sydyn am nifer o resymau megis genedigaeth, salwch neu ddamwain. Gall dyletswyddau gofalu hefyd ddigwydd yn raddol.

Dywedodd Catherine Moyle, Swyddog Cymorth yr Uned Gofalwyr, Cyngor Sir Ceredigion: “Gall cael y wybodaeth gywir wrth i berson ddechrau gofalu gwneud gwahaniaeth enfawr. Hyd yn oed os ydych wedi bod yn gofalu am ddegawdau, mae’n hollbwysig bod gofalwyr yn sicrhau eu bod yn cael pob cefnogaeth sy’n bosib.”

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11yb ac yn gorffen am 4yp. Estynnir croeso cynnes i Ofalwyr a'r rhai y gofelir amdanynt. Darperir te a choffi ynghyd â chinio o gawl a bara.

Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech ddod ac nid ydych yn siŵr sut y gallwch gyflawni hynny, cysylltwch á’r Uned Gofalwyr Ceredigion a gwnawn ein gorau i’ch helpu chi i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir. Gellir cysylltu â’r Uned Gofalwyr drwy ffonio 01970 633564 neu e-bostio unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk.

04/11/2019