Mae gan Dewis Cymru gyfeiriadur Cymru gyfan ar-lein, y gall trigolion Ceredigion ei ddefnyddio i ddod o hyd i gyfoeth o adnoddau a chyfleoedd yn y Sir.

Cyfeiriadur yw Dewis Cymru sy'n cynnal ystod o gyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau yn y gymuned. Gall sefydliadau, cymunedau ac aelodau'r cyhoedd ddefnyddio Dewis Cymru i rannu gwybodaeth gyda pobl am yr hyn sydd ar gael yn eu hardal.

Er enghraifft; gall grŵp cymdeithasol gynnal bore coffi rhithwir neu gallai grŵp cymunedol drefnu taith gerdded yn eu hardal leol ar gyfer y rhai sydd eisiau gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Gellir gosod unrhyw fath o ddigwyddiad neu adnodd ar Dewis Cymru, ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Olygydd Dewis Cymru. Gall y Cyngor, grwpiau gwirfoddol a thrydydd sector hefyd roi manylion am yr adnoddau a'r gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig ar Dewis Cymru.

Gallwch ddarganfod mwy am Dewis Cymru ar wefan y Cyngor.

I chwilio am wasanaethau ac adnoddau sydd ar gael yn eich ardal leol, ewch i wefan Dewis Cymru.

27/11/2020