Gyda 92% o bobl yng Nghymru bellach yn ailgylchu’n rheolaidd*, mae Cymru gam yn nes at gyflawni ei hymgyrch Wych o gyrraedd rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu.

Dyna pam mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymuno â Chymru yn Ailgylchu trwy alw ar ein trigolion i ddal ati gyda’u hymdrechion gwych i ailgylchu popeth y gallan nhw’r gwanwyn hwn.

Er gwaethaf yr heriau a ddaeth i’n rhan dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfradd ailgylchu Cymru ar ei gorau (65%**) ac mae 55%* ohonom bellach yn ailgylchu mwy nag yr oedden ni 12 mis yn ôl.

Mae Cymru wedi dangos ei hysbryd gwych ac mae hi eisoes yn y trydydd safle yn y byd, ond gyda hanner ohonom yn dal i beidio ag ailgylchu popeth y gallwn, mae cryn dipyn i’w wneud eto.

Ailgylchu yw un o'r ffyrdd hawsaf y gallwn helpu i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd o’n cartrefi gan ei fod yn helpu i arbed adnoddau naturiol ac arbed ynni, gan arafu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Ymunwch â ni i gefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol ein planed.

Dywedodd Tîm Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Ceredigion: “Rydyn ni'n cefnogi Ymgyrch Wych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu. Gallwn ni i gyd chwarae rhan trwy ailgylchu popeth y gallwn gartref – boed yn wastraff bwyd, fel plisg wyau, pilion ffrwythau a llysiau a bagiau te o’r gegin, neu ailgylchu poteli siampŵ a jel cawod gwag o'r ystafell ymolchi. Rydyn ni wedi dangos bod gennym ni’r gallu i sicrhau mai hon fydd ein blwyddyn ailgylchu orau erioed, felly gadewch i ni barhau â'n hymdrech wych i arwain Cymru i rif un yn y byd.”

Awgrymiadau Gorau ar gyfer Ailgylchu

Mae Cymru yn Ailgylchu wedi rhannu ei awgrymiadau gorau ar gyfer ailgylchu gartref y gwanwyn hwn, ac maent yn cynnwys y canlynol:

  1. Ewch yn wyrdd wrth lanhau’r tŷ’n llwyr

Gellir ailgylchu poteli cynnyrch glanhau gwag – o boteli cannydd plastig i chwistrellwyr ac erosolau cwyr celfi. Sicrhewch eu bod yn wag a rhowch nhw yn eich ailgylchu yn lle eu taflu. Mae ailgylchu dim ond un botel chwistrelliad glanhau yn arbed digon o ynni i wefru chwe chyfrifiadur llechen.

  1. Trowch eich gwastraff bwyd yn ynni

Os ydych chi'n coginio, rhowch yr holl wastraff bwyd na allwch ei fwyta fel crwyn a choesynnau llysiau yn eich cadi gwastraff bwyd, ynghyd â phlisg wyau ac unrhyw esgyrn sy'n weddill o gig neu bysgod. Gellir ailgylchu bagiau te, gwaddodion coffi a chrwyn ffrwythau hefyd. Pan gaiff bwyd ei ailgylchu, caiff ei droi'n ynni adnewyddadwy. Gall un croen banana wedi'i ailgylchu gynhyrchu digon o ynni i wefru dau ffôn clyfar.

  1. Byddwch yn deyrn ar foteli’ch ystafell ymolchi

Gellir ailgylchu rhan fwyaf eitemau plastig y cartref gan gynnwys pethau ymolchi'r ystafell ymolchi fel poteli plastig siampŵ, sebon llyfnu, sebon dwylo a jêl cawod. Pan fyddan nhw wedi gorffen, rhowch olchad iddyn nhw a'u rhoi yn eich cynhwysydd ailgylchu. Mae'n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel blastig o blastig wedi'i ailgylchu o'i gymharu â defnyddio defnyddiau ‘crai’, felly diogelwch y blaned o'ch ystafell ymolchi trwy ailgylchu.

  1. Cymerwch awdurdod dros eich erosolau

Gellir ailgylchu pob erosol sy’n wag o safbwynt diaroglydd, siampŵ sych a pheraroglydd. Mae metel yn ailgylchadwy yn annherfynol sy'n golygu y gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro heb golli dim o'i ansawdd. Ymunwch â'r 73% o bobl yng Nghymru sydd eisoes yn ailgylchu eu caniau erosol gwag.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Bydd Wych, Ailgylcha. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Cyngor Sir Ceredigion i gael trosolwg o’r hyn y gellir ei ailgylchu.

11/03/2021