Bydd rhywbeth at ddant pawb ar stondin Cyngor Sir Ceredigion yn y brifwyl eleni.

Rydym am ddathlu’r hyn sy’n gwneud ein sir yn lle mor arbennig – yn lle delfrydol i fyw, perthyn, dysgu a llwyddo.

Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys arddangosfeydd coginio dyddiol yn ffocysu ar gwmnïau lleol o wahanol ardaloedd o Geredigion.

Rydym hefyd yn falch o gefnogi busnesau lleol sy’n llwyddo yn y sir trwy ddarparu slotiau yn ein cytiau masnachu ar safle Pentre’ Ceredigion. Ymhlith y busnesau bach fydd yn manteisio ar y cyfleoedd hyn y mae cwmnïau celf a chrefft, bwyd a diod, dillad, nwyddau a chwmni cyhoeddi. Dewch i gefnogi busnesau bach Ceredigion.

Gallwch hefyd ymlacio yn ein hardal werdd gan fwynhau hyfrytwch naturiol ein bröydd a dysgu am lwybrau cerdded newydd yn eich milltir sgwâr.

Dyma hefyd fydd unig ddarpariaeth chwaraeon y Maes, felly dewch â’ch plant i fwynhau gweithgareddau o bob math. Bydd yna wal ddringo, sesiynau pêl-droed, rygbi, saethyddiaeth, beicio, ioga a ffitrwydd bob dydd o’r wythnos.

Gallwch hefyd fanteisio ar sesiynau galwedigaethol gyda thîm Hyfforddiant Ceredigion – beth am roi cynnig ar ddysgu ychydig o fecaneg, trin gwallt neu waith coed?

Galwch heibio i’n llwyfan perfformio, sef ‘Llwyfan-ni’, i fwynhau perfformiadau cofiadwy gan Iwcadwli, Clera, Mewn Cymeriad, Mari Mathias, Bwca, Catrin Finch, a disgyblion ysgolion Ceredigion.

Neu beth am swatio’n glyd yng nghysgod carafán T Llew Jones i fwynhau stori’n llawn hud a lledrith, neu fwynhau diod hafaidd, hyfryd ar ein beiciau smwddi blasus?

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop yn dod i Geredigion eleni, ac rydym fel sir wedi’n cyffroi’n lân ac yn edrych ymlaen at roi croeso cynnes i bawb a fydd yn ymweld â’r sir arbennig hon. Mae yna gryn edrych ymlaen wedi bod i’r brifwyl ar ôl cyfnod anodd o gyfyngiadau dros ddwy flynedd, felly edrychwn ymlaen at gael dathlu’n hiaith a’n diwylliant ar y Maes yn Nhregaron a sicrhau bod ffrwyth gwaith caled ein cymunedau yn parhau fel gwaddol gadarn i’r dyfodol. Rydym wedi paratoi arlwy arbennig o weithgareddau a digwyddiadau ar ein stondin ym Mhentre’ Ceredigion, ac edrychwn ymlaen at sgwrsio â phobl o bell ac agos a rhannu gwefr yr Eisteddfod a’n sir arbennig ni â’r genedl. Dewch yn llu. Welwn ni chi yna!”

Bydd sesiynau, derbyniadau a darlithoedd amrywiol hefyd yn cael eu cynnal ar y stondin trwy gydol yr wythnos. Gellir gweld amserlen lawn Pentre’ Ceredigion ar ein gwefan: Cyngor Sir Ceredigion: Eisteddfod 

Gallwch hefyd lawrlwytho ap yr Eisteddfod a chael rhagor o wybodaeth ar wefan yr Eisteddfod.

Cofiwch rannu eich lluniau chithau hefyd trwy ddefnyddio’r hashnod #Steddfod2022 ac #EisteddfodCeredigion, a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:

  • Facebook: @CyngorSirCeredigion
  • Twitter: @CSCeredigion
  • Instagram: @CaruCeredigion

Welwn ni chi yna!

12/07/2022