Mae plant Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi cael gwersi mewn diogelwch ar-lein yn defnyddio deunyddiau addysgu sydd newydd gael eu cyfieithu.

Fe ddefnyddiodd Gareth James, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth y deunyddiau i ddysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg am fod yn ddiogel ar-lein. Datblygwyd y deunyddiau yn y lle cyntaf gan Google a Parent Zone ac fe ariannwyd y cyfieithu gan Google. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y deunyddiau.

Mae diogelwch ar-lein yn cael ei ddysgu drwy gydol y flwyddyn mewn ysgolion ar draws y sir. Mae ysgolion Ceredigion wedi mabwysiadu Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys addysgu diogelwch ar-lein. Bydd y deunyddiau sydd newydd gael eu cyfieithu yn helpu ysgolion i addysgu diogelwch ar-lein yn fwy effeithiol.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd: “Mae'r rhyngrwyd yn awr ym mhob rhan o fywydau plant. Wrth i fwy a mwy o wybodaeth a chyfleoedd dysgu fod ar gael ar-lein, mae'n hanfodol ein bod yn arfogi ein plant i wneud y defnydd gorau o'r hyn sy'n cael ei gynnig. Er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel, bod yn ymwybodol o'r bygythiadau a sut i ddelio â nhw.

“Mae'n bwysig bod y deunyddiau addysgu ar gael yn y Gymraeg, ac roeddwn wrth fy modd eu gweld yn cael eu defnyddio yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.”

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Rydym wedi ymrwymo i gynyddu a gwella addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Rydym yn ffodus i gael gweithlu dawnus sy’n ddwyieithog ar y cyfan, ond mae deunyddiau fel hyn yn gymorth mawr i wella ansawdd addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC: “Roedd yn wych cael bod yn bresennol yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth i weld gwers o'r rhaglen ‘Arwyr y Rhyngrwyd’ gan Google yn cael ei chyflwyno. Mae sicrhau diogelwch plant a phobl ifanc ar-lein mor bwysig a bydd yr adnoddau hyn yn helpu dysgwyr i ystyried pethau fel eu hôl troed digidol.

"Gyda'r adnoddau sydd i'w lansio'n ddwyieithog ar Hwb yn fuan bydd hynny'n golygu y gall pob disgybl yng Nghymru elwa o'r rhaglen."

Vicki Shotbolt yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Parent Zone. Dywedodd: "Mae'n hanfodol bod plant yn dysgu i feddwl yn ofalus ac yn feirniadol am yr hyn maen nhw'n ei wneud ac yn ei weld ar-lein. Mae Parent Zone wedi gweithio gyda Google i addysgu plant iau am yr wybodaeth hanfodol sydd eu hangen arnynt i fod yn ddiogel a hyderus ar-lein, gan eu helpu i fod yn wydn, caredig ac yn bositif yn yr oes ddigidol hon.”

Dywedodd Rosie Luff, Rheolwr Polisi Cyhoeddus yn Google UK: “Rydym yn falch iawn o ymweld ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth heddiw i helpu i ddysgu plant am sut i fod yn Arwyr y Rhyngrwyd dros y rhyngrwyd. Drwy ymgyfarwyddo â beth welwn ni fel y pum maes craidd o ddiogelwch ar-lein, rydym am baratoi plant i gael profiad diogel a chadarnhaol ar-lein.”

Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi chwarae rhan yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru fel Ysgol Arloesi am y tair blynedd diwethaf. Mae'r ysgol yn arwain y ffordd wrth ddechrau sefydlu egwyddorion y cwricwlwm newydd, gan gynnwys diogelwch ar-lein yn benodol.

10/01/2020