Ar 17 Mawrth, mae Clwb Gwerin Aber yn cyflwyno’r ddeuawd werin, Kathryn Roberts a Sean Lakeman yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.

Mae deuawdau’n mynd a dod, ac mae rhai yn meithrin ac yn manwl diwnio eu celfyddyd a’i gwylio’n tyfu i fod yn rhywbeth hudolus ac sy’n ennill gwobrau. Clymwyd Kathryn and Sean gan hud anweledig, ac maen nhw wedi plethu eu perthynas broffesiynol a phersonol yn gampwaith rhagorol o ddawn gerddorol a chyfansoddi caneuon mewn modd dychmygus.

Mae’r gŵr a gwraig sydd wedi’u lleoli yn Dartmoor wedi ennill teitl y ‘Best Duo’ yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn 2016 a 2013 am berfformiadau cyson hyderus ac arbennig naill ai’n fyw neu wedi’u recordio.

Ers dros ddau ddegawd o berfformio, mae’r ddau wastad wedi bod yn feiddgar ac yn arloesol, gan gymysgu trefniannau traddodiadol gyda deunydd fwyfwy hunan-ysgrifenedig. Mae eu cerddoriaeth yn cynnwys genres gwerin, roc, canu gwlad a’r felan, ac mae’r tôn yn amrywio o’r chwerw i’r melys, o’r eironig i’r trist, ac o’r gwleidyddol i’r goddefol.

Dywedodd Dan Laws, Clwb gwerin Aber, “Mae’n anrhydedd mawr i gyflwyno’r ddeuawd adnabyddus yma mewn lleoliad mor wych. Bydd bysedd traed yn tapio. Cynhelir clwb gwerin Aber yn yr amgueddfa ar ddydd Mercher cyntaf a thrydydd dydd Mercher bob mis.”

Bydd un o ffyddloniaid clwb gwerin Aber, John Aldersalde, yn cefnogi’r ddeuawd.

Bydd y drysau’n agor am 7.30pm. Mae tocynnau’n £15 ac maen nhw ar gael o’r Ganolfan Croeso yn Aberystwyth.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn Amgueddfa Ceredigion, trwy ddilyn ‘Amgueddfa Ceredigion Museum’ ar Facebook neu ewch i’w gwefan: http://www.ceredigionmuseum.wales/hafan/.

14/03/2019