Mae tîm Dechrau'n Deg wedi bod yn brysur yn addasu eu gwasanaethau yn ystod pandemic COVID-19.

Fel y bydd nifer o rieni a theuluoedd yn ymwybodol, yn ôl ym mis Mawrth 2020, bu'n rhaid i Dechrau'n Deg Ceredigion roi'r gorau i ddarparu'r amserlen arferol o weithgareddau llawn oherwydd COVID-19. Er nad yw sesiynau grŵp a gwasanaethau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal bellach, mae tîm Dechrau'n Deg wedi bod yn brysur yn addasu eu gwasanaethau ac yn parhau i ddarparu cymorth dros y ffôn, drwy neges destun, e-bost, negeseuon mewn sgyrsiau grŵp, Zoom a thrwy ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Er na all Ymwelwyr Iechyd gefnogi teuluoedd wyneb yn wyneb gymaint ag y byddent yn ei wneud fel arfer, mae pob elfen o raglen Plant Iach Cymru yn parhau i gael eu darparu yn rhithiol, gyda staff yn manteisio ar sianeli megis WhatsApp a Skype. Mae Ymwelwyr Iechyd ynghyd â Therapyddion Iaith a lleferydd bellach yn treialu adnodd ‘Attend Anywhere’ sy’n cynnig system apwyntiadau ar-lein. Mae Gweithwyr Cymorth Teulu, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Swyddogion Rhianta a Staff Gofal Plant wedi addasu i gynnig cyrsiau rhianta, iaith a chyfathrebu 1-1 a grŵp yn rhithiol.

Ers i weithgareddau wyneb yn wyneb ddod i ben, mae 23 o rieni wedi cael mynediad at 5 cwrs grŵp a dreialwyd hyd yma, gan gynnwys cyrsiau tylino babanod, Helpu fi Eich helpu chi, Y Blynyddoedd Rhyfeddol, a Family Links, ac anfonwyd llyfrau ac adnoddau eraill at deuluoedd i’w cefnogi i ymgymryd â chynnwys y cwrs. Mae’n well gan rieni eraill gymorth 1:1 ac mae cyrsiau rhianta wedi cael eu darparu gyda’r nos i gyd-fynd â phatrymau gweithio neu ofal plant.

Dywedodd un rhiant a fu’n cymryd rhan mewn cwrs rhianta ar-lein, “Fe wnaeth y cwrs hwn fy helpu’n fawr yn ystod y cyfnod clo. Mae gallu siarad â rhieni eraill wedi rhoi hwb i fy iechyd meddwl ac roedd yn braf gallu rhannu syniadau. Rhoddwyd cyngor gwych imi ynglŷn â sut i ddelio â strancio a dysgu fy merch fach i ddefnyddio’r tŷ bach. Byddwn yn argymell i unrhyw un ei wneud.”

Mae tudalen Facebook Teuluoedd Ceredigion Families yn rhannu gwahanol argymhellion, gweithgareddau, ac adnoddau bob dydd, gan gynnwys ryseitiau iachus, gweithgareddau lleferydd ac iaith, a syniadau celf a chrefft i’w gwneud gartref. Mae Tîm Dechrau’n Deg Ceredigion yn parhau i gynnig gwasanaeth Cadw mewn Cysylltiad, lle gall rhieni a theuluoedd sgwrsio â’u Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd neu eu Hymwelydd Iechyd bob wythnos i gael cyngor, gwybodaeth a chymorth. Yn ogystal, mae’r tîm wedi paratoi bagiau gweithgareddau i deuluoedd Dechrau’n Deg yn barod i’w dosbarthu mewn pryd ar gyfer Gwyliau’r Haf.

Dywedodd Rhian Rees, Rheolwr Dechrau’n Deg, “Mae hwn yn gyfnod heriol i bawb – i staff yn ogystal â rhieni, ond efallai ei fod yn arbennig o heriol os ydych chi’n rhiant newydd neu os oes gennych blant ifanc adref. Rwy’n falch iawn o’n tîm yn Dechrau’n Deg sydd wedi addasu’n dda iawn ac wedi dangos ymrwymiad a thosturi tuag at ein teuluoedd. Mae rhieni sydd wedi gwneud cais am ein gwasanaeth ‘Cadw mewn Cysylltiad’ wedi dweud bod hyn wedi bod yn ddefnyddiol ac mae gwybod bod y tîm yno i siarad â nhw a chynnig cyngor a chymorth yn ôl yr angen yn gysur mawr. Mae ein tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi bod yn llwyddiannus o ran rhannu adnoddau a syniadau y gall rhieni eu gwneud gyda’u plentyn gartref.”

I weld mwy o’r hyn sy’n digwydd, ewch i dudalen Facebook Teuluoedd Ceredigion Families am y wybodaeth ddiweddaraf bob dydd neu gallwch gysylltu drwy anfon e-bost at: dechraundeg@ceredigion.gov.uk

13/07/2020