Mae Llyfrgelloedd ar draws Ceredigion yn cefnogi Wythnos Llyfrgelloedd Cenedlaethol 2019 drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau rhwng 7 a 12 Hydref 2019.

Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni yw dathlu rôl llyfrgelloedd yn y byd digidol. Bydd ffocws ar sut mae llyfrgelloedd yn cysylltu cymunedau trwy dechnoleg, meithrin sgiliau digidol a hyder, annog cyfranogiad a chynhwysiad digidol, cefnogi iechyd, lles ac addysg a chefnogi busnesau a mentrau lleol.

Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws Llyfrgelloedd yng Ngheredigion yn ystod yr wythnos, gan gynnwys;

  • Noson Goffa i ddathlu gwaith y bardd a’r awdur enwog lleol, T.Llew Jones yn Llyfrgell Aberystwyth ar 9 Hydref am 7:30yh.
  • Sesiynau galw heibio e-adnoddau yn Llyfrgell Aberystwyth (7 & 9 Hydref am 11yb – 1yp, 2yp – 4yp), Llyfrgell Aberteifi (8 Hydref am 11yb – 1yp, 2yp – 4yp), Llyfrgell Llambed (10 Hydref am 11yb – 1yp, 2yp – 4yp) a Llyfrgell Aberaeron (11 Hydref am 2yp – 4:30yp).
  • Cyfle i drio Penwisg Rhith-realiti yn Llyfrgell Aberystwyth ar 11 Hydref am 11yb -1yp a 2yp - 4yp.
  • Cyfle i blant gwrdd â T-rex yn Llyfrgell Aberystwyth ar 5 Hydref rhwng 10yb - 10:30yb, 11:30yb a 12yp.
  • Cyhoeddir enillydd y Gystadleuaeth Fideo i ddisgyblion ysgol yn ystod yr wythnos.

Cynghorydd Ray Quant MBE yw’r aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Llyfrgelloedd. Dywedodd, “Unwaith eto eleni, mae Llyfrgelloedd Ceredigion yn dathlu Wythnos Genedlaethol y Llyfrgelloedd drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n addas ar gyfer pob oedran. Mae'n gysur mawr gwybod bod llyfrgelloedd yn fannau croesawgar a chynhwysol sy'n cynnwys cyfleusterau amlbwrpas a all fod o fudd i bawb.”

Dilynwch Llyfrgelloedd Ceredigion ar Facebook neu eu gwefan am wybodaeth am ddigwyddiadau.

02/10/2019