Ar ddydd Gwener, 5 Awst cynhaliwyd derbyniad ym Mhentre' Ceredigion ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron i ddathlu pen-blwyddi amlwg i Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Eleni, mae Prifysgol Aberystwyth yn nodi ei phen-blwydd yn 150 oed ac mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dathlu ei daucanmlwyddiant o ddarparu addysg uwch.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Braint yw cael dathlu pen-blwyddi Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac i gydnabod cyfraniad gwerthfawr y ddau sefydliad i economi, treftadaeth a diwylliant Ceredigion. Yn ddiamheuol mae yna ddiwylliant cryf o ddarparu addysg uwch yng Ngheredigion ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y pwysigrwydd rydym ni fel Cyngor Sir yn ei roi ar addysg ̶ ac ar roi’r cyfleoedd gorau posib i’n plant a’n pobl ifanc.

“Mae cael dau sefydliad cryf fel hyn, sydd yn denu myfyrwyr a darlithwyr ac ymchwilwyr rhyngwladol, yn rhoi Ceredigion ar y map. Mae hefyd yn galonogol gweld gwaith arloesol yn cael ei ddatblygu yng Ngheredigion. Mae llawer o’r myfyrwyr sy’n dod i astudio yn y Sir yn aros yma ac yn datblygu eu gyrfa eu hunain ac yn magu teuluoedd yma.

“Rydym ni fel Cyngor Sir Ceredigion yn falch iawn o’r cydweithio sy’n digwydd gyda’r ddwy Brifysgol ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r ddwy am flynyddoedd i ddod.”

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn dathlu daucanmlwyddiant addysg uwch yng Nghymru eleni a rôl ei champws yn Llambed yn y stori falch honno. Ni ellir gorbwysleisio’r effaith y mae dau gan mlynedd o addysg uwch wedi’i chael ar ddinasyddion Cymru. Rwy’n falch iawn ein bod yma yn yr Eisteddfod i ddathlu man geni addysg uwch yng Nghymru a bod y Cyngor Sir yn cydnabod y cyfraniad y mae campws y Brifysgol yn Llambed a Phrifysgol Aberystwyth wedi’i wneud i ffyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Ceredigion. Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Brifysgol Aberystwyth ar gyrraedd carreg filltir o’r fath yn ei hanes nodedig.”

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Wrth i ni nodi canrif a hanner ers sefydlu Prifysgol gyntaf Cymru yn Aberystwyth, mae’n fraint o’r mwyaf i ddathlu ein cyfraniad i’n cymuned yma yng Ngheredigion a thu hwnt. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i dalu teyrnged i’r sawl gafodd y weledigaeth ac a dorrodd dir newydd drwy sefydlu Prifysgol yn y fan hon.

“Wrth ddathlu’r gorffennol, rydym hefyd yn cydnabod cyfraniad aruthrol Prifysgol Cymru i’n cymuned heddiw a’r uchelgais sydd gennym ar gyfer y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’n staff sy’n sicrhau ein bod yn cael ein cydnabod yn sefydliad sy’n cynnig rhagoriaeth i’r sawl sy’n dod yma i ddysgu, yn ogystal â bod yn sefydliad lle gwneir ymchwil o bwys byd-eang.

“Hoffwn fynegi fy niolchgarwch i Gyngor Sir Ceredigion am gynnal y digwyddiad hwn ac estyn fy llongyfarchiadau calonnog i Brifysgol y Drindod Dewi Sant ar gyrraedd carreg filltir arwyddocaol wrth i ni gyd-ddathlu un o gyfraniadau allweddol Ceredigion i’r byd ehangach.”

 

05/08/2022