Ar 01 Mawrth, bydd y faner yn chwifio ynghyd ȃ gweithgareddau lu i dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant yng Ngheredigion.

Mae Dydd Gŵyl Dewi Sant yn ddiwrnod arbennig pan rydym yn dathlu Cymru, ein pobl, ein hiaith ynghyd ȃ’r diwylliant unigryw sy’n perthyn i ni gyd. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn nodi’r diwrnod gyda’g amryw o weithgareddau i’w mwynhau ac am annog cyfranogiad.

Bwriad sialens #CaruCennin yw codi hwyliau pobl Ceredigion a thu hwnt. Beth am wneud i rhywun wenu drwy gymryd rhan yn y sialens #CaruCennin? Llwythwch fideo o’ch hun yn taflu cenhinen ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #CaruCennin. Gallwch chi ei thaflu o’r dde i’r chwith, yn bell, yn uchel, yn gyflym neu mewn unrhyw ffordd digri. Cofiwch enwebu tri pherson arall i wneud yr un fath. Ewch amdani neu dilynwch yr hwyl ar cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion.
Ymunwch ȃ thudalen Facebook Cered a Cica Corona er mwyn ymuno yn ysbryd y dathlu. Nos Sul 28 Chwefror am 6yh cynhelir cyngerdd rhithiol sy’n arddangos talentau’r ardal. Cymerwch ran yn Cwis Dewi, canfyddwch y cysylltiadau rhwng Dewi Sant a gwahanol leoliadau yng Ngheredigion. Bydd Sgwrs Panel yn cael ei arwain gan Rhodri Francis o Menter Iaith Cered ar y teitl, ‘Beth yw’r pethau bychan?’ ac fe fydd Helo Blod yn cyflwyno calendr gweithgaredd Cymraeg i fusnesau.

Mae dysgwyr Cyngor Sir Ceredigion yn cael y cyfle i baru gyda dysgwyr yn Sir Conwy mewn sesiwn rhithiol er mwyn cael y cyfle i ymarfer eu sgiliau sgwrsio.
Os ydych yn colli mynychu Eisteddfod, beth am gymryd rhan yn Eisteddfod Rhithiol Cardi Iaith? Mae’r rhestr testunau ar dudalen Facebook @CardiIaith.

Ar y dydd hwn, rydym yn cofio am ein nawddsant Dewi a’i neges i ni wneud y pethau bychain. Mae’r Cyngor am atgoffa taw un o’r pethau bychain hynny yw rhoi’r cynnig o wasanaeth Cymraeg. Dyma fideo sy’n dangos pam bod siaradwyr Cymraeg angen neu’n dewis cyfathrebu gyda’r Cyngor yn Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, “Rydym yn cofio am ein nawddsant Dewi a’i neges i ni wneud y pethau bychain. Mae’r neges honno yr un mor wir heddiw. Mae gwneud y pethau bychain yn golygu edrych ar ôl ein cymdogion, cefnogi ein cymunedau, a rhoi beth fedrwn ni pan fedrwn ni. Ar adegau mae’r cyfnod clo’ yn medru ein llethu gan ein gadael i deimlo yn ddi-rym. Ond mae’n bwysig ein bod yn sylweddoli fod ganddom ni oll ran i’w chwarae er mwyn gwella ein cymuned. Wedi’r cyfan mae nifer o bethau bychain yn arwain at un peth mawr.”

Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon!

22/02/2021