Bydd Llwybrau Celtaidd, prosiect sy'n hyrwyddo Ceredigion ac ardaloedd partner yn ne-orllewin Cymru ac Iwerddon, yn cael sylw yn y Gyngres Geltaidd Ryngwladol y penwythnos hwn.

Gohiriwyd y Gyngres Geltaidd Ryngwladol, a oedd i'w chynnal yn Aberystwyth yn 2020, oherwydd COVID-19. Fodd bynnag, fe'i cynhelir yn rhithiol eleni rhwng dydd Gwener 2 Gorffennaf a dydd Sul 4 Gorffennaf, gan alluogi cynulleidfa ehangach, fyd-eang i gymryd rhan am y tro cyntaf.

Mae'r Gyngres yn cwrdd bob blwyddyn, ac mae’r wlad sy'n cynnal y gyngres yn dewis thema'r gynhadledd. Eleni mae'r wlad sy'n cynnal y gyngres, sef Cymru, yn canolbwyntio ar sut i lwyddo fel Celtiaid yn y byd busnes cyfoes, gan dynnu sylw at sawl busnes yng Nghymru a'r gwledydd Celtaidd eraill.

Un fenter a fydd yn cael sylw yn ystod y gynhadledd yw Llwybrau Celtaidd. Mae hwn yn brosiect twristiaeth ar y cyd rhwng Iwerddon a Chymru sy'n tynnu sylw at y perthnasoedd hanesyddol a diwylliannol rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Iwerddon. Mae partneriaid Llwybrau Celtaidd yn cynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Gâr a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a siroedd Wexford, Wicklow a Dinas a Sir Waterford yn Iwerddon.

Un o brif amcanion Llwybrau Celtaidd yw annog busnesau yn yr ardaloedd hyn i weithio gyda'i gilydd a chymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o ddatblygu cynhyrchion a phrofiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Mae'n bleser croesawu'r Gyngres Geltaidd i Geredigion eleni, er yn rhithiol, a hefyd cyflwyno cynadleddwyr i Lwybrau Celtaidd. Mae Ceredigion wedi agor ei drysau i ymwelwyr unwaith eto ond mae COVID-19 wedi gwneud i ni i gyd feddwl yn fwy gofalus am deithio, gan gynnwys a ddylem ystyried dewisiadau amgen i’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd ymhlith twristiaid. Mae parchu ein tirweddau a'n cymunedau wrth wraidd brand Llwybrau Celtaidd.”

Dywedodd Áine Ni Fhiannusa, Llywydd Rhyngwladol y Gyngres Geltaidd: “Am antur y bydd ein cynhadledd rithiol yn mynd â ni arno, a bydd yn cael ei gweld am y tro cyntaf gan Geltiaid ledled y byd.”

Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect Llwybrau Celtaidd ar gael ar eu gwefan: Llwybrau Celtaidd 

01/07/2021