Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Ceredigion 2018 gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion ar ddydd Gwener, 06 Gorffennaf ym Mhenmorfa, Aberaeron.

Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn ceisio cynorthwyo pob clwb chwaraeon ar lefel leol i gyflawni'r gamp o chwarae ar lefel ryngwladol.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Ceredigion, y Cynghorydd Gareth Lloyd, “Trefnir y digwyddiad mewn partneriaeth â Cheredigion Actif ac mae’n dwyn ynghyd yr hyn sy’n dda am chwaraeon lleol a’r bobl sy’n gweithio’n ddyfal yn eu cylch. Mae chwaraeon, gweithgarwch corfforol a ffordd o fyw iach yn rhan o’n diwylliant yng nghymunedau Ceredigion. Mae angen i ni barhau i fuddsoddi a datblygu pobl a lleoedd er budd cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn gynnig diolch haeddiannol i’n cefnogwyr i gyd, Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru am eu cyfraniadau. Hefyd i Gyngor Sir Ceredigion, sydd wedi’n cefnogi ni am dros chwarter canrif.”

Dyfarnwyd y wobr fawreddog ‘Hyfforddwr y Flwyddyn Ceredigion’ i Ian Carswell, am ei waith yng Nghlwb Cychod Teifi. Dyfarnwyd Eirian Reynolds gyda ‘Gwobr Gwirfoddolwr Chwaraeon Anabledd Cymru’.

Dyfarnwyd Catrin Davies gyda gwobr ‘Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn’ sy’n rhoi llawer o’i hamser i weithgareddau o fewn yr ysgol a'r gymuned yn Nhregaron. Dyfarnwyd pedwar disgybl o Ysgol Plascrug y wobr am ‘Llysgennad Ifanc Efydd’ a cafodd Osian Davies, disgybl o Ysgol Bro Teifi, ei wobrwyo gyda’r wobr ‘Llysgenhad Ifanc 2018’.

Gwobr arall sy'n uchel ei barch a gyflwynwyd yn ystod y seremoni oedd ‘Gwobr Arwr Tawel’. Sefydlwyd y wobr y llynedd i gydnabod pobl sy'n neilltuo llawer o'u hamser a'u hymdrech 'tu ôl i'r llen’ i glybiau a thimau chwaraeon. Eleni, enillodd Tricia Chapman, gwirfoddolwr ymroddedig Pêl-rwyd Ceredigion, y wobr.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o fod wedi cefnogi Cyngor Chwaraeon Ceredigion am dros 25 o flynyddoedd. Rydym yn gefnogol bod cyflawniadau o fewn chwaraeon yn cael eu cydnabod a’u dathlu ac rydym yn hollol ymroddedig i gefnogi’r gweithgareddau a’r cyfleoedd eang sydd ar gael yma yng Ngheredigion. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu gwobrwyo ac mae’n ysbrydoledig i glywed am y nifer o bobl sy’n mwynhau chwaraeon yn lleol yn y sir.”

Cyflwynodd Gareth Williams, Prif Hyfforddwr 7 bob ochr Cymru, dystysgrif goffaol i 23 o bobl chwaraeon, mewn cydnabyddiaeth gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion am ddod yn chwaraewyr rhyngwladol yn 2017.

Cyflwynwyd ‘Gwobr Chwaraeon Talentog Iau’ i 20 cais llwyddiannus am grant. Mae’r grant hwn yn cynorthwyo Plant Talentog Iau o oedran ysgol i gyflawni rhagoriaeth. Mae'r grant ar gael ar gyfer hyfforddiant, mynychu cystadlaethau ac am offer chwaraeon.

Dywedodd Rheolwr Cymunedau Gweithredol, Steven Jones: “Rwy'n falch iawn am llwyddiant y seremoni gwobrau. Mae'n dyst i nifer o chwaraewyr addawol o Geredigion sydd wedi mynd ymlaen i lwyddo ar lefel rhyngwladol ac rydym yn dymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd wedi bod yn gyfle i gydnabod pobl sy'n darparu cymorth a gweledigaeth o'r cychwyn; yr hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr a hefyd i'r llysgenhadon ifanc addawol sy'n cyflwyno prosiectau chwaraeon newydd cyffrous i bobl eraill yn eu hysgolion a'u cymunedau. Ar ran Cyngor Chwaraeon Ceredigion, mewn partneriaeth â Cheredigion Actif, rydym yn falch o allu parhau i ddarparu cymorth a chyllid ar gyfer clybiau ar draws y sir.”

I gael rhagor o wybodaeth am waith Ceredigion Actif a Cyngor Chwaraeon Ceredigion, ewch i: www.ceredigionactif.org.uk

09/07/2018