Cafodd disgyblion o ysgolion cynradd ar draws Ceredigion eu gwobrwyo â thystysgrifau’n ddiweddar mewn cydnabyddiaeth o’u cyflawniadau fel Llysgenhadon Ifanc Efydd am 2018.

Mae’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc, sy’n cael ei ddarparu gan Ceredigion Actif, yn anelu at alluogi ac ysbrydoli pobl ifanc i fod yn arweinyddion trwy chwaraeon a helpu annog eu ffrindiau i ddatblygu diddordeb mewn cadw’n heini.

Mae’r llwybr arweinyddiaeth y Llysgenhadon Ifanc yn dechrau gyda lefel Efydd, sy’n cychwyn ym mlyddynoedd pump a chwech yn ysgolion cynradd ac yn symud ymlaen yn ystod ysgol gyfun gyda’r lefelau – Criw Chwaraeon, Arian, Aur a Phlatinwm.

Fe wnaeth 107 o ddisgyblion gymryd rhan eleni, gan gynnwys yr holl ysgolion cynradd ar draws y sir. Mae’r holl Lysgenhadon Ifanc Efydd yn derbyn hyfforddiant un-dydd ar y dechrau, sy’n cynnwys Hyfforddiant Cynhwysol Anabledd, sy’n cael ei ddarparu gan Dîm Pobl Ifanc Egnïol Ceredigion. Mae’r hyfforddiant yn darparu sgiliau sylfaenol angenrheidiol i sicrhau gall y llysgenhadon ifanc rhedeg clybiau cynhwysol allgyrsiol a hyrwyddo mentrau arall wedi eu dylunio i gael pobl ifanc yn heini a’n iach.

Dywedodd Alwyn Davies Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol, “Llongyfarchiadau i’r holl arweinwyr ifanc a gymerodd rhan yn y rhaglen Llysgenhadon Ifanc eleni ac am yr ymroddiad a brwdfrydedd fe wnaethant roi tuag at annog disgyblion o fewn eu hysgolion i fod yn fwy egnïol mewn ffordd hwylus a deniadol.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Hamdden, “Rwy’n falch iawn o’r cyflawniadau mae’r Llysgenhadon Ifanc Efydd wedi cyflawni yn eu hysgolion eleni, maent yn fodelau rôl am addysg gorfforol ac maent wedi hyrwyddo’r gwerthoedd cadarnhaol o chwaraeon, da iawn i chi gyd.”

Mae yna 41 o lysgenhadon ifanc arian ac aur, o flynyddoedd 10,11 a 12, sy’n darparu sesiynau mewn ysgolion cyfun ledled Ceredigion ac mae 12 o Arweinwyr Ifanc o fewn y Rhaglen Arweinyddiaeth Gynhwysol,
‘Chwarae Unedig’.

 

24/07/2018