Bydd Tŷ Coffi Coliseum, sydd wedi’i leoli yn Amgueddfa Ceredigion yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni gyda bwydlen newydd, yn cynnwys bwyd traddodiadol o Gymru, wedi’i gynhyrchu’n lleol.

Mae’r caffi, sydd bellach dan reolaeth newydd gan Amgueddfa Ceredigion, wedi creu bwydlen ddiwygiedig, sy’n sicrhau bod cymaint o’r bwyd a diod sydd ar gael yn lleol, maes a’n masnach deg. Gall ymwelwyr i’r caffi cael paned ynghyd â Te prynhawn Cymreig, neu roi cynnig ar rywbeth newydd o’r fwydlen wedi’i thrawsnewid.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion, “Mae’n gyffrous iawn i ni ymgymryd â’r caffi, gan ei fod wedi rhoi cyfle i ni ei redeg yn fwy unol â’m hymrwymiad i fod yn foesegol ac yn ymwybodol o’r amgylchedd, yn ogystal ag adlewyrchu'r gorau mae Ceredigion yn gallu cynnig o ran bwyd a diod. Rydyn ni hefyd yn helpu'r staff i ddysgu Cymraeg, ac felly'n annog pobl leol i ddod i roi cyfle iddyn nhw ymarfer. " 

Dywedodd Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, "Rydym yn falch iawn o weld Amgueddfa a chaffi yn cefnogi ffocws y Cyngor ar gryfhau cymunedau a'r economi leol. Pa ffordd well i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi nag ymweld â Thŷ coffi Coliseum i flasu rhai o'u danteithion blasus traddodiadol o Gymru, megis cawl, Bara brith a Phicau ar y maen."

Mae'r caffi’n hygyrch i bawb, gyda lifft o lefel waelod. Mae'r caffi'n croesawu grwpiau cymunedol, grwpiau mamau/tadau a babanod a mwy. Mae ganddo gornel chwarae wedi ei neilltuo ar gyfer plant, gyda chaffi cegin o fath Vintage, yn barod i lawer o bartïon te!

I dderbyn gwybodaeth am gynigion diweddaraf yn y Tŷ coffi Coliseum ac i dderbyn gwybodaeth am beth sydd ymlaen yn Amgueddfa Ceredigion, dilynwch ‘Amgueddfa Ceredigion Museum’ ar Facebook neu ewch i'w gwefan: http://www.ceredigionmuseum.wales/hafan/

14/02/2019