Bydd yr artist lleol Gwenllian Beynon a tri o’i myfyrwyr yn cyflwyno hanes eu taith i Ohio ar nos Wener, 29 Mehefin am 7:30yh yn Theatr Felinfach.

Ym mis Medi 2017, aeth Gwenllian Beynon (Uwch Ddarlithydd Coleg Celf Abertawe) a 3 myfyriwr, Caitlin Littlejohns, Gwaredd Jones a Tomos Sparnon, allan i Brifysgol Rio Grande yn Ohio. Tra yno, fe wnaethant gydweithio i ymateb yn greadigol i’r ymfudo i Ohio yn 1818, trwy ffotograffau a gwaith celf gweledol greadigol.

Bydd Gwenllian a’r myfyrwyr yn siarad am y gwaith celf a grëwyd ganddynt tra eu bod yn Ohio ac sydd nawr yn cael eu harddangos yn Theatr Felinfach. Mae hyn yn gyfle i glywed am yr hyn a welson nhw, ynghyd â phrofi ac ystyried yr hanes hynod hwn o’r Cymry yn Ohio dros ddwy ganrif, 1818-2018, trwy eu llygaid hwy.

Mae’r noson yn rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Cymru - Ohio. Bydd adloniant gan Mali a Guto Lewis, Llanon i gloi’r noson. Mae’r noson am ddim, nid oes angen tocyn, a bydd y siop a’r bar ar agor.

I barhau gyda’r dathliadau, y noson ganlynol cynhelir Cyngerdd Mawreddog yng Nghae Sgwâr, Aberaeron. Ar nos Sadwrn, 30 Mehefin dyma gyfle i chi fynd â phicnic, cadair esmwyth a mwynhau arlwy amrywiol.

Bydd y noson yn cynnwys Cerddorfa Ysgolion Uwchradd Ceredigion, Disgyblion Ysgol Gynradd a Gyfun Aberaeron, Côr Meibion Cymru Ohio sydd wedi ei greu yn arbennig ar gyfer y dathliadau, Lloyd Macey sef enillydd cyfres deledu’r X Factor, y delynores Catrin Finch a’r soprano Gwawr Edwards. Llywydd y noson yw Huw Edwards, BBC ac arweinyddion y noson yw Yvonne Evans, Chris Jones, Catrin Haf Jones, Geraint Lloyd, Heledd Siôn a Terwyn Davies. Bydd y gatiau yn agor am 4:00yp.

Mae’r tocynnau ar gyfer y Cyngerdd Mawreddog ar gael nawr yn Theatr Felinfach. Maent yn £25 i oedolion a yn £10 i blant.

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ymwelwch â www.theatrfelinfach.cymru

 

20/06/2018