Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae 71 o achosion newydd wedi profi’n bositif ar gyfer Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru, gan wneud cyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yn 347, ond mae’r nifer gwirioneddol o achosion yn debygol o fod yn uwch. Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn bodoli ym mhob rhan o Gymru nawr.

“Mae 12 o bobl yng Nghymru sydd wedi profi’n bositif am Goronafeirws Newydd (COVID-19) wedi marw yn awr.

“Gan ddechrau yfory, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at bob meddyg teulu ac unigolyn agored i niwed yng Nghymru gan gyhoeddi manylion y cyfarwyddyd gwarchod.

“Dylai aelodau’r cyhoedd barhau i ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf ar ynysu cymdeithasol os oes ganddynt symptomau haint coronafeirws, pa mor ysgafn bynnag yw’r symptomau, a’r cyfarwyddyd ar ymbellhau cymdeithasol, er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo.”

Dyma’r cyfarwyddyd diweddaraf:

• Pobl sy’n byw gydag eraill:
o os mai chi yw’r cyntaf yn y tŷ i gael symptomau coronafeirws, rhaid i chi aros gartref am saith diwrnod, ond rhaid i’r holl aelodau eraill o’r teulu sydd dal yn iach aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am 14 diwrnod. Mae’r cyfnod o 14 diwrnod yn dechrau o’r diwrnod pryd aeth y person cyntaf yn y cartref yn sâl.
o ar gyfer unrhyw un arall yn yr un tŷ sy’n dechrau dangos symptomau, rhaid iddynt aros gartref am 7 diwrnod ar ôl i’r symptomau ymddangos, heb ystyried ar ba ddiwrnod maent yn y cyfnod ynysu gwreiddiol o 14 diwrnod.
• Pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain: os oes gennych chi symptomau salwch coronafeirws (COVID-19), pa mor ysgafn bynnag yw’r symptomau, arhoswch gartref am saith diwrnod.
• Dylai pawb, gan gynnwys plant, osgoi cyswllt nad yw’n hanfodol gydag eraill a theithio diangen.
• Dylid gofyn i bawb weithio o gartref os yw hynny’n bosib, ac osgoi tafarndai, clybiau, theatrau a lleoliadau cymdeithasol.
• Gofynnir i bobl dros 70 oed a grwpiau agored i niwed o unrhyw oedran o fewn dyddiau i warchod eu hunain rhag cyswllt cymdeithasol am sawl wythnos.

Am y canllawiau yn llawn, ewch i wefan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: https://www.gov.uk/government/topical-events/coronavirus-covid-19-uk-government-response

Dywedodd Dr Shankar: “Nid oes raid i bobl gysylltu â GIG 111 mwyach os ydynt yn meddwl eu bod wedi dal Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae cyngor am y feirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru phw.nhs.wales/coronavirus.

“Mae’r symptomau yn cynnwys: tymheredd uchel, lle rydych chi’n teimlo’n boeth wrth gyffwrdd eich brest neu eich cefn; a pheswch newydd, parhaus. Mae hyn yn golygu peswch llawer am fwy nag awr, neu dri neu fwy o byliau o beswch mewn 24 awr. Os oes gennych chi beswch fel arfer, gall fod yn waeth.

“Os ydych chi’n byw gydag eraill ac mai chi yw’r cyntaf yn y cartref i ddangos symptomau coronafeirws, rhaid i chi aros gartref am saith diwrnod, ond rhaid i’r holl aelodau eraill o’r teulu sydd dal yn iach aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am 14 diwrnod. Mae’r cyfnod o 14 diwrnod yn dechrau o’r diwrnod pryd aeth y person cyntaf yn y cartref yn sâl.

“Ar gyfer unrhyw un arall yn yr un tŷ sy’n dechrau dangos symptomau, rhaid iddynt aros gartref am saith diwrnod ar ôl i’r symptomau ymddangos, heb ystyried ar ba ddiwrnod maent yn y cyfnod ynysu gwreiddiol o 14 diwrnod.

“Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun ac os oes gennych chi symptomau salwch coronafeirws (COVID-19), pa mor ysgafn bynnag yw’r symptomau, rhaid i chi aros gartref am 7 diwrnod o pryd dechreuodd eich symptomau.

“Ni ddylai unrhyw un sy’n amau bod ganddo salwch coronafeirws fynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os ydynt yn teimlo nad ydynt yn gallu ymdopi â’u symptomau gartref ddylai pobl gysylltu â GIG 111, os yw eu cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod.

“Dim ond os ydych chi’n profi argyfwng sy’n bygwth eich bywyd ddylech chi ffonio 999, peidiwch â ffonio 999 dim ond am eich bod yn gorfod aros am ymateb ar 111. Rydym yn gwerthfawrogi bod llinellau 111 yn brysur, ond byddwch yn cael ateb dim ond i chi aros.

“Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn yn y cam ‘oedi’. Drwy ddilyn y cyngor diweddaraf, byddwch yn eich gwarchod eich hun a’r bobl fwyaf agored i niwed, ac yn oedi a gwastatau’r anterth, a fydd yn lleihau’r pwysau ar GIG Cymru ac yn lleihau effaith y feirws.”

Mwy o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yma: https://icc.gig.cymru/

22/03/2020