Mae’r Cyngor wedi derbyn gwybodaeth bod tri antelop y gors wedi dianc o Borth Wild Animal Kingdom y bore yma, dydd Mercher 25 Mawrth.
Mae hyn yn newyddion siomedig tu hwnt i’r awdurdod, sydd wedi cyflwyno nifer o hysbysiadau cau i’r sŵ, gan fod yr Awdurdod Lleol wedi colli hyder yng ngallu’r sŵ i weithredu’n gyfrifol ac yn ddiogel.
Mae gweithredwyr y sŵ wedi apelio yn erbyn y gorchymyn cau cychwynnol, ac rydym yn aros am gadarnhad o wrandawiad llys.
Yn y cyfamser, mae swyddogion yn bresennol ar y safle er mwyn asesu’r sefyllfa. Gofynnwn i’r cyhoedd gadw draw o’r ardal hyd nes y bydd y sefyllfa wedi’i datrys.
Bydd datganiad arall yn cael ei gyhoeddi maes o law.
25/03/2020