Ar 24 Medi, cafodd y Cabinet ddiweddariad ar y ddarpariaeth gynyddol sy'n cael ei darparu i'r gymuned cyn-filwyr yng Ngheredigion. Cawsant eu diweddaru ar ddau weithgaredd sef y swydd am Swyddog Cyswllt Cyfamodau Rhanbarthol y Lluoedd Arfog (RAFCLO) a’r prosiect ariannu canolfan i gyn-filwyr.

Penodwyd Jane Watt yn Swyddog Cyswllt fel y RAFCLO ym mis Ionawr 2019. Ers hynny mae Jane, sydd yn gyn-filwyr ei hunan, wedi bod yn brysur iawn, yn egnïo Partneriaeth Cyfamod Lluoedd Arfog Ceredigion a sefydlu rhwydweithiau a chysylltiadau rhanbarthol a lleol â rhanddeiliaid allweddol.

Y Cynghorydd Paul Hinge yw’r Eiriolwr Lluoedd Arfog i Gyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Mae Jane hefyd wedi bod yn rheoli’r prosiect y ganolfan i gyn-filwyr yng Ngheredigion sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Penparcau, Aberystwyth. Mae ar agor pob dydd Llun i gyn-filwyr a'u teuluoedd gwrdd ag eraill, cael cyngor, cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol, i ymlacio a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Hefyd hoffwn roi diolch arbennig i’r ymddiriedolwyr Fforwm Penparcau am weithio gyda ni mewn partneriaeth i gynnal a datblygu'r gwasanaeth."

Cafodd Colin Jones MBE ei benodi fel mentor y Ganolfan ym mis Mehefin 2019. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth newydd o fewn y gymuned leol a’n ehangach, mae Colin yn trefnu gweithgareddau yn y Ganolfan, sydd wedi cynnwys cynnal clybiau brecwast a dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn: “Ym Mehefin 2018, penderfynodd y Cabinet ymrwymo i gytundeb partneriaeth gyda Chynghorau Sir Caerfyrddin a Phenfro er mwyn cael mynediad i gyllid y Weinyddiaeth Amddiffyn i gynyddu'r ddarpariaeth i'r gymuned cyn-filwyr yng Ngheredigion. Mae'n hynod o braf clywed am y datblygiadau cadarnhaol o ran cynyddu'r ddarpariaeth a'r cyfleoedd yng Ngheredigion ar gyfer ein cyn-filwyr gwerthfawr. Mae’n rhaid i ni gyd wneud ein gorau i gydnabod a chofio’r aberth a wnaed gan gymuned y Lluoedd Arfog."

Cadarnhaodd y Cabinet y bydd Canolfan y Cyn-filwyr yn cael ei hagor yn ffurfiol ar 28 Tachwedd gan y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn AC.

Mae gwybodaeth am y Ganolfan Gyn-filwyr i'w gweld ar ei dudalen Facebook: Veterans Hub Penparcau.

24/09/2019