Mae parseli sy’n cynnwys cynnyrch bwyd lleol yn parhau i gael eu dosbarthu i 900 o drigolion yng Ngheredigion sy’n cysgodi bob wythnos.

Cyngor Sir Ceredigion yw’r sir gyntaf yng Nghymru i dderbyn cymeradwyaeth i gydlynu’r Cynllun Cysgodi yn lleol. Mae’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn rhoi’r opsiwn i drigolion sy’n cysgodi dderbyn parseli bwyd yn wythnosol os nad oes ganddynt deulu neu ffrindiau a all eu helpu gyda’u siopa yn ystod argyfwng COVID-19.

Mae’r cynllun bellach yn ei ddegfed wythnos, ond ers 4 Mai 2020, mae Ceredigion wedi gallu sicrhau perchnogaeth lawn o gynnwys ac ansawdd y parseli bwyd, gan sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi gan gyflenwyr lleol a bod y parseli yn cael eu pacio a’u dosbarthu i gymunedau gan yrwyr Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r Cyngor wedi gallu dod o hyd i’r cynnwys gan gyflenwyr lleol, Castell Howell a Jones & Davies Fruit and Veg Ltd. Bob wythnos, mae Tîm Arlwyo Ceredigion a Chanolfan Fwyd Cymru yn dewis eitemau bwyd amrywiol drwy’r cyflenwyr lleol hyn. Mae hyn yn sicrhau bod y parseli’n amrywiol ond eu bod hefyd yn parhau i gynnig gwerth maethol o ansawdd uchel. Mae Ceredigion wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod cymaint o gynnyrch Cymreig â phosibl yn cael eu cynnwys yn y parseli. Mae’r rhain yn cynnwys llaeth, tatws, wafflau, wyau, winwns, siytni, creision, bara brith a bara ceirch o Gymru. Yn ogystal, mae Ceredigion bellach wedi sicrhau’r cyfleusterau i allu cynnwys cynnyrch wedi’i oeri i drigolion. Erbyn hyn, gall parseli hefyd gynnwys caws, menyn a chig moch o Gymru.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Cymorth Cynnar, Lles Cymunedol a Dysgu: “Gwnaed gwaith tîm aruthrol o fewn Cyngor Sir Ceredigion i sicrhau bod ein trigolion mwyaf bregus yn derbyn cymorth ac yn cael eu diogelu rhag y coronafeirws. Mae timau ar draws yr Awdurdod Lleol wedi bod yn gyfrifol am ddwyn y cynllun ynghyd. Rydym yn falch o glywed cymaint o adborth cadarnhaol am y cynllun lleol, ac mae hyn yn gwneud y cyfan yn werth chweil. Teimlwn ei bod yn bwysig cefnogi cynhyrchwyr a chyflenwyr lleol yn ystod y cyfnod hwn lle bo hynny’n bosib, ac mae’r cynllun lleol yn caniatáu i ni wneud yr union beth hwnnw.”

Dywedodd un preswylydd sy’n cysgodi: “Mae’n rhaid i mi achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi fel Cyngor Sir am eich cefnogaeth barhaus i ni fel trigolion bregus sy’n cysgodi ar hyn o bryd. Ar adeg fel hon, rwyf yn hynod o falch o fyw yng Ngheredigion, ac ni fydd eich cymorth yn ystod y pandemig hwn, gan gynnwys y parseli bwyd a’r galwadau lles, yn cael ei anghofio. Mae ansawdd a chynnwys y pecyn wythnosol o’r ansawdd gorau, gydag amrywiaeth o gynnyrch Cymreig.”

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cyhoeddi y dylai 130,000 o bobl yng Nghymru barhau i gysgodi tan 16 Awst 2020. Mae’r grŵp cysgodi yn cynnwys pobl sydd â chyflwr iechyd sy’n golygu eu bod mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael os byddant yn dal COVID-19. Bydd pawb a fydd yn cysgodi yn cael llythyr yn cynnwys cyngor ar gysgodi, e.e. yn nodi y dylent ond adael eu cartrefi i wneud ymarfer corf, gan gadw pellter cymdeithasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Yn achos pobl nad ydynt yn bodloni’r meini prawf i gysgodi, ond y mae arnynt angen cymorth i siopa neu gael meddyginiaeth, ewch i'n gwefan i gael rhestr o’r opsiynau sydd ar gael yn eich ardal.

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer pobl sydd wedi’u nodi i fod mewn perygl mawr iawn o fynd yn ddifrifol wael yn sgil y coronafeirws ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Mae canllawiau ar warchod a diogelu pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

05/06/2020