Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cryn dipyn o gydweithio wedi digwydd rhwng darparwyr gofal Ceredigion a sefydliadau'r sector cyhoeddus.

Drwy gydol y cyfnod hwn, mae mynediad at swyddogion arbenigol a gweithwyr proffesiynol wedi bod ar gael am ddim i sicrhau bod gan bob darparwr y wybodaeth, y cyngor a'r adnoddau angenrheidiol i gefnogi eu staff, eu preswylwyr a theuluoedd drwy gydol y pandemig. Mae mynediad ar gael saith diwrnod yr wythnos gan gynnwys gyda'r nos pan fo angen.

Roedd y cymorth yn cynnwys darparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) am ddim, sgrybs i staff, gwelyau, ac unrhyw eitemau eraill a nodwyd yn ôl yr angen. Darparwyd yr adnoddau hyn yn brydlon gan gefnogi’r darparwr gofal i gynnal gwasanaethau diogel yn ystod cyfnodau heriol lle bu brigiadau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy na £1.2m (sef cymorth ariannol ychwanegol a roddwyd yn uniongyrchol) wedi’i ddarparu drwy’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd. Ar ben hynny, amcangyfrifir bod gwerth hanner miliwn o bunnau o Gyfarpar Diogelu Personol wedi’i ddarparu yn rhad ac am ddim.

Yn rhan o’r gwaith o reoli brigiadau Covid-19, cynhaliwyd dros 267 o gyfarfodydd cynllunio o fis Ebrill 2020 ymlaen, gydag ystod o swyddogion arbenigol o Gyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bresennol, a ymatebodd i anghenion y lleoliadau yn ôl yr angen.

Mae sesiynau un wrth un wedi bod ar gael yn ôl yr angen i gefnogi'r gwaith o adolygu asesiadau risg ar gyfer ymweliadau gan deuluoedd, adolygu protocolau a gweithdrefnau sy'n benodol i'r lleoliad neu drafod unrhyw bryderon a oedd yn gofyn am gymorth ychwanegol gan ystod o staff yr Awdurdod Lleol a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae’r camau cyntaf i gynnig ymweliadau i deuluoedd bellach wedi dechrau trwy ein trefniadau ymweld diogel ac mae cartrefi’n parhau i ddefnyddio menter Llywodraeth Cymru i ddatblygu a darparu podiau ymweld diogel ar gyfer cartrefi.

Dywedodd un darparwr: “Mae’n ymddangos bod cymorth wedi bod ar ben arall y ffôn 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i roi cyngor a chymorth. Maent wedi bod yno i ddatrys problemau ymarferol yr ydym wedi’u profi o ran dod o hyd i offer, maent wedi bod yno i wrando arnom pan rydym wedi bod o dan straen ac angen clust i wrando, ac maent wedi bod yn gyswllt dibynadwy cyson rhwng cartrefi gofal, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Hywel Dda.

Wrth i ni symud ymlaen i'r cam adfer rydym yn parhau i gefnogi pob darparwr drwy'r cam nesaf hwn.

Sian Howys yw Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd: “Mae’r ffordd y mae Gofal Cymdeithasol, Iechyd a darparwyr cartrefi gofal wedi gweithio gyda’i gilydd yn ddiflino yn ystod y cyfnod mwyaf heriol wedi sicrhau y cefnogwyd ac y gofalwyd am ein trigolion mwyaf bregus yn llawn.”

23/04/2021