Mae naw deg pâr o finocwlars wedi cael eu prynu drwy Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru ac wedi’u darparu i weithredwyr cychod sy’n darparu tripiau bywyd gwyllt yng Ngheredigion er mwyn ceisio lleihau aflonyddwch ar fywyd gwyllt y môr.

Trwy god ymddygiad gwirfoddol, mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio'n agos gyda gweithredwyr y tripiau cychod i'w hannog i gadw pellter parchus. Mae’r bywyd gwyllt yna’n fwy tebygol o ddod at y cwch hefyd.

Melanie Heath yw Swyddog Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion. Eglurodd: “Mae’r binocwlars ar gael am ddim i deithwyr er mwyn gwella eu profiad o wylio bywyd gwyllt; gan wella eu dealltwriaeth a’u gwerthfawrogiad o’r bywyd gwyllt arbennig sydd gennym yma. Yn ystod yr haf, mae pen deheuol Bae Ceredigion yn ardal fwydo a magu lloi o bwys rhyngwladol ar gyfer dolffiniaid trwyn potel. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys mannau gorffwys gwerthfawr i forloi llwyd a thraethau iddynt fagu lloi, a nythfeydd adar môr sydd o bwys cenedlaethol. Rydym wedi darparu binocwlars i weithredwyr tripiau cychod yn y gobaith y bydd hyn yn lleihau achosion o gychod tripiau bywyd gwyllt yn mynd yn rhy agos at anifeiliaid." 

Er mwyn cadw'r bywyd gwyllt lleol yn ddiogel wrth fynd allan ar y dŵr, cofiwch wneud y canlynol:

  • Cadwch lygad allan am fywyd gwyllt
  • Cadwch eich pellter
  • Gostyngwch eich cyflymder
  • Gostyngwch lefel eich sŵn

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Mae Bae Ceredigion yn Ardal Cadwraeth Arbennig; ardal warchodedig sy'n gartref i amrywiaeth o anifeiliaid a phlanhigion morol arbennig, gan gynnwys dolffiniaid trwyn potel. Rydym wrth ein bodd y bydd y binocwlars a roddwyd yn caniatáu i ymwelwyr gael profiad cyfoethog o fywyd gwyllt yr ardal, tra gall gweithredwyr cychod sicrhau y gellir osgoi unrhyw aflonyddwch."

Llun: ‘Mae binociwlars yn rhoi golwg agos o’r anifeiliaid heb achosi aflonyddwch’

 

29/09/2021