Dangoswyd ffilm o CADERNID: Bioleg Straen a Gwyddor Gobaith ar 22 Chwefror i gynnal sgwrs o gwmpas Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).

Cynhaliodd Cyngor Sir Ceredigion y dangosiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i dros 50 o gyfranogwyr, yn amrywio o bobl ifanc i weithwyr proffesiynol. Yn dilyn y ffilm, cynhaliwyd panel cwestiynau ac ateb i fynd i'r afael â agenda ACE yng Nghymru a thrafod ymhellach sut y gall sefydliadau gymryd agwedd wybodus o ACE yn eu gwaith.

Trafododd Brian Evans o Ysgol Llwyn yr Eos, Billy Goodfellow o'r Tîm Cefnogi Teuluoedd a Dr Sion James o Feddygfa Tregaron i gyd am eu profiad. Rhannodd y gynulleidfa syniadau ar sut i atal ACE a sut i adnabod ac ymyrryd pan fyddant yn bresennol.

Croesawodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, bobl o ystod eang o wasanaethau a chefndiroedd a siaradodd am bwysigrwydd y ffilm wrth ddatblygu ymwybyddiaeth ACE a chefnogi ein cymunedau i wella profiadau blynyddoedd cynnar ein plant a lleihau lefelau iechyd niweidio ymddygiad. Aeth y Cynghorydd ap Gwynn ymlaen i ddweud, “Mae ACE yn fframwaith pwysig i ni oll wrth ddatblygu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae'r ffilm yn gam pwysig o ran codi ymwybyddiaeth yn ehangach ledled Ceredigion.”

Mae'r ffilm yn manylu ar y dystiolaeth sy'n cysylltu bioleg straen a ACE i salwch mawr. Mae person sydd wedi profi pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol, gan gynnwys gwahanu teuluoedd, trais yn y cartref, defnyddio cyffuriau neu afiechyd meddwl yn 15 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trais.

Ers cyhoeddi ymchwil yng Nghymru yn 2015, mae nodi a mynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi dod yn fframwaith trefnu sylweddol ar draws gwasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys addysg, iechyd y cyhoedd a'r heddlu).

Cynhelir digwyddiad pellach i blant a phobl ifanc yng Nghanolfan Morlan ddydd Llun, 12 Mawrth 2018 o 4:30yh. Bydd hyn yn gyfle i ddatblygu'r camau nesaf y gall gwasanaethau eu cymryd i nodi a gwella ymatebion, gan edrych ar yr hyn sy'n gweithio ar hyn o bryd a beth all gael ei wneud i gefnogi pobl ifanc yn symud ymlaen.

Mae rhagor o wybodaeth am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar gael ar y wefan hon www.aces.me.uk.

Am ragor o wybodaeth neu i drafod ymhellach, cysylltwch â'r Tîm Cymorth i Deuluoedd ar 01545572649 neu timteulu@ceredigion.gov.uk.

05/03/2018