Mae arlwy Gŵyl AmGen eleni yn cynnwys perfformiad arloesol o ‘Dan y Wenallt’, sef addasiad o gyfieithiad T James Jones o Under Milk Wood, a hynny gan gwmni newydd sbon o’r enw Theatr Soffa a grëwyd ar y cyd rhwng CERED, Menter Iaith Sir Benfro a Celfyddydau Span.

Ym mis Mai, ar ôl bod yn byw dan glo am dros fis, aethpwyd ati i weithio gydag unigolion o ardaloedd de Ceredigion a gogledd Sir Benfro, gan greu prosiect theatr ar-lein gyda chymorth cynhyrchydd theatr aml-gyfrwng, sef Rowan O’Neill, a’r crëwr ffilm Jacob Whittaker.

Y weledigaeth oedd ceisio creu profiad theatrig byw ar-lein trwy feddalwedd fideo gynadledda ‘Zoom’ ar adeg y cyfnod cychwynnol dan glo. Roedd ‘Dan y Wenallt’, trosiad T. James Jones o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, yn ddewis delfrydol ar gyfer yr arbrawf. Dyma glasur o ddrama, gyda math o glawstroffobia afreolus yn perthyn iddi yn ei phortread o orfoleddau a thrallodau cymuned fach.

Bydd ‘Dan y Wenallt’ yn cael ei pherfformio’n fyw ar 07 Awst 2020 am 8yh, a gofynnir i’r gynulleidfa archebu lle ymlaen llaw trwy wefan Celfyddydau Span Arts

Mae ‘Dan y Wenallt’ wedi’i lleoli yn Llaregub, sef tref fach glan môr ffuglennol. Yma mae cymeriadau fel Capten Cat y morwr dall, Poli Gardis a’r Parch Eli Jenkins yn synfyfyrio ar eu bywydau ac ar y byd mawr a’i bethau. Yn ystod y perfformiad, caiff lleisiau’r actorion eu plethu gyda chlipiau ffilm archif a chyfredol sy’n creu cynhyrchiad arbrofol, atmosfferig a phroffesiynol ei arddull.

Dywedodd Non Davies, Rheolwr CERED: “Mae’r prosiect cyffrous hwn wedi bod yn grêt i dynnu pobl na fyddai byth wedi medru cydweithio fel arall at ei gilydd i greu cyfanwaith arloesol – unigolion o wahanol gefndiroedd ac o ardal eang ac o bob oed. O’r hynaf i’r ieuengaf mae pawb wedi mwynhau’r cymdeithasu ar-lein sydd wedi digwydd yn ystod ein hymarferion. Cymaint yw brwdfrydedd y criw fel ein bod eisoes yn ystyried darnau eraill i’w perfformio yn yr hydref!”

Mae’r fenter ddigidol arbrofol hon yn rhan o brosiect Span Digidol sydd wedi bod yn peilota sut y gall technoleg ddigidol gael ei defnyddio’n greadigol i fynd i’r afael â materion tebyg i lesiant cymdeithasol ac ynysu gwledig. Cefnogir Span Digidol gan gronfa Gwella Sir Benfro, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa LEADER Arwain Sir Benfro.

04/08/2020