“Mae dal gan drigolion Ceredigion amser i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr,” meddai Prif Weithredwr a Swyddog Canlyniadau Gweithredol y cyngor, Eifion Evans

Mae dal gan breswylwyr amser i gofrestru i bleidleisio a threfnu pleidleisiau drwy'r post neu drwy ddirprwy os ydynt am wneud hynny. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 26 Tachwedd. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar gyfer pleidlais bost yw 5yp ar 26 Tachwedd, a'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy yw 5yp ar 4 Rhagfyr.

Parhaodd Mr Evans, “Efallai y bydd rhai preswylwyr am gofrestru ar gyfer pleidlais drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy. Gallai hyn helpu pobl i osgoi amodau gaeafol posibl mewn etholiad ym mis Rhagfyr, neu bobl ifanc sydd wedi symud allan o'r sir i astudio ond sy'n dal am bleidleisio yng Ngheredigion.”

Gall preswylwyr gofrestru i bleidleisio drwy ddefnyddio'r linc hon: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy ffonio Tîm Gwasanaethau Etholiadol y cyngor ar 01545 570 881.

11/11/2019