Mae plac newydd wedi’i ddadorchuddio ar Gofeb Rhyfel Aberteifi i anrhydeddu tri milwr o’r dref a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Dadorchuddiwyd y plac yn ystod Gwasanaeth Coffa ac Ymgysegru cyhoeddus ar 12 Hydref.

Mae'r plac yn coffáu Michael J. Dunphy a fu farw yn Rhyfel y Falklands yn 1982 a Lee T. Davies a David M.E. Greenhalgh a fu farw yn ystod y gwrthdaro yn Affganistan rhwng 2001 a 2015. Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw ei Mawrhydi yn Nyfed a ddadorchuddiodd y plac.

Y Cynghorydd Paul Hinge yw Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Roedd yn fraint ac yn anrhydedd croesawu pawb i'r Gwasanaeth Coffa ac Ymgysegru, nid yn unig am fod gennyf gysylltiad ag Aberteifi, ond fel cyn-filwr a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Ceredigion.

“Talodd y tri milwr o Aberteifi, Michael Dunphy, Lee Davies a Dave Greenhalgh yr aberth eithaf ac mae eu henwau bellach wedi’u hanfarwoli ar Gofeb Rhyfel Aberteifi.

“Roedd yn fraint gweithio gyda'r holl randdeiliaid a oedd yn rhan o'r broses o gynllunio'r diwrnod, gan gynnwys y teuluoedd, y catrodau, Cyngor Tref Aberteifi a swyddogion Cyngor Sir Ceredigion. Roeddem yn falch bod nifer dda o bobl wedi dod i’r gwasanaeth ddydd Sadwrn a oedd yn dangos pa mor bwysig yw cofio’r milwyr i bawb a oedd yno. Roedd yn deyrnged addas iddynt.”

16/10/2019