Mae tad mabwysiadol i ddau wedi sôn am y fraint y mae'n teimlo wrth wylio ei blant yn ffynnu ac yn tyfu.

Mae Alex* wedi disgrifio dod yn dad fel 'math cwbl newydd a rhyfeddol o lawenydd', ac ar Sul y Tadau mae'n annog mwy o ddynion i ystyried mabwysiadu.

Drwy Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae Alex yn adrodd ei stori gan obeithio y bydd yn ysbrydoli.

Mae'r gwasanaeth yn cefnogi teuluoedd ac unigolion yn ystod pob cam o'r daith fabwysiadu, gan baru plant â phobl sy'n gallu rhoi bywyd teuluol cariadus, diogel a sefydlog iddynt.

Llwybr i ddechrau teulu

I Alex a'i wraig, daeth eu penderfyniad i fabwysiadu ar ôl triniaeth ffrwythlondeb aflwyddiannus a'u harweiniodd i feddwl am eu cynlluniau o ran teulu.

Wrth gysylltu â thîm mabwysiadu eu hawdurdod lleol, cafodd y cwpl eu paru â bachgen bach ychydig dros flwyddyn ar ôl gwneud eu hymholiad cyntaf.

“Roedden ni wastad wedi siarad am fabwysiadu fel ffordd bosibl o ddechrau teulu," meddai. “Gwnaethon ni roi cynnig ar rownd o IVF pan oedd hi'n amlwg na allen ni feichiogi'n naturiol, ond ar ôl i hynny fethu cymeron ni amser i fyfyrio.

“Dechreuon ni'r broses ym mis Ionawr. Cawson ni flwyddyn eithaf normal wrth fynd drwy'r broses - aethon ni i'r gwaith fel arfer, mynd i wyliau, ar wyliau, treulio amser gyda theulu a ffrindiau - yn ogystal â mynd i gyfarfodydd gyda gweithwyr cymdeithasol a mynychu cyrsiau.

“Gwnaethon ni geisio darllen cymaint ag y gallen ni a mynychu cyrsiau a hyfforddiant ychwanegol y tu allan i'r rhai a drefnwyd gan yr awdurdod lleol. Gwnaed penderfyniad gan y panel cymeradwyo ym mis Rhagfyr ac ar ôl bod yn llwyddiannus nid oedd gennym amser hir i aros cyn i blentyn gael ei baru â ni.

“Wnaethon ni ddim nodi y byddai bachgen neu ferch yn well gennym, ond roedd yr awdurdod lleol yn dda iawn o ran dod o hyd i blentyn oedd yn cyd-fynd â'n ffordd o fyw a'n proffiliau.

“Mae gan bob un ohonom ffyrdd o ddod o hyd i'n llawenydd ein hunain, ond roedd dod yn dad yn fath cwbl newydd a rhyfeddol o lawenydd nad oeddwn wedi'i brofi o'r blaen.”

Gan eu bod wedi cael profiad mor gadarnhaol, penderfynodd Alex a'i wraig fabwysiadu eto ddwy flynedd yn ddiweddarach.

“Roedd yn broses symlach yr eildro, gan ein bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl," meddai. “Roedd gennym weithiwr cymdeithasol gwahanol nad oedd wedi gweithio gyda phobl oedd yn mabwysiadu am yr eildro o'r blaen, felly roedd hi'n synnu braidd at lefel ein hyder!”

Cyngor Alex

Mae Alex bellach yn cyfaddef ei fod yn siarad am fabwysiadu drwy'r amser ac mae'n dweud bod mabwysiadu wedi bod yn brofiad cadarnhaol.

“Ar ôl treulio blynyddoedd lawer heb blant yn fy mywyd a dod o hyd i lawenydd mewn sawl ffordd arall, rwy'n ymdrechu'n galed i beidio ag awgrymu bod pobl heb blant rywsut yn israddol, ond mae'n fraint lwyr gallu darparu amgylchedd diogel i ddau blentyn i'w gwylio'n ffynnu ac yn tyfu.

"I unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu, byddwn yn eich cynghori i ddechrau ar y broses gyda'ch llygaid ar agor gan y bydd problemau annisgwyl yn codi, ond dyfalbarhewch - rydym yn siarad am blant, nid angenfilod!

“Mae llawer o grwpiau cymorth ar gyfer mamau mabwysiadol, ond ychydig iawn i dadau, felly manteisiwch ar unrhyw gyfle i fynd am gwrw gyda thad mabwysiadol - fe welwch fod mabwysiadu yn llawer mwy normal a chyffredin nag yr ydych yn ei feddwl! Ac os oes gennych fynediad i sianel Apple TV, gwyliwch 'Trying’. Crynodeb doniol a gweddol gywir iawn o'r holl broses!”

Ar Sul y Tadau eleni - os yw'r tywydd yn caniatáu - mae Alex a'i deulu yn mynd i wersylla.

“Roedd y berthynas oedd gen i gyda fy nhad fy hun yn llawer mwy traddodiadol, felly rwy'n ceisio bod yn llawer mwy agored a chariadus gyda fy mhlant. Pan fydda i'n treulio amser gyda fy ffrindiau sydd hefyd yn dadau, dydw i ddim yn teimlo'n wahanol iddyn nhw - rwy'n caru fy mhlant yn ddiamod ac rwy'n hynod falch ohonyn nhw.”

Cefnogi teuluoedd sy'n mabwysiadu

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn wasanaeth pwrpasol sy'n cefnogi teuluoedd sy'n mabwysiadu i ddod at ei gilydd.

Mae'r tîm yn recriwtio, yn hyfforddi ac yn asesu darpar fabwysiadwyr i ddarparu lleoliadau mabwysiadu o ansawdd uchel ar gyfer plant a phobl ifanc lleol, gan eu galluogi i fyw gyda theuluoedd newydd, parhaol.

Nid oes meini prawf penodol ar gyfer dod yn rhiant mabwysiadol - does dim ots a oes gan ddarpar fabwysiadwyr blant eisoes, p'un a ydynt yn sengl neu'n gwpl (yn syth neu'n LHDT+), p'un a ydynt yn briod, yn ddi-briod neu mewn partneriaeth sifil.

Mae plant yn cael eu paru a'u lleoli gyda rhieni mabwysiadol ar ôl asesu eu bod â'r sgiliau i ddiwallu anghenion y plant a'u bod yn gallu darparu sefydlogrwydd a chyfle iddynt ffynnu.

Darperir cymorth parhaus i fabwysiadwyr a'u teuluoedd drwy gydol oes y plentyn mabwysiedig.

Yn lleol, mae angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn osod plant gyda theuluoedd ac unigolion sy'n rhannu'r un diwylliant, iaith a chrefydd.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb fynd i mabwysiaducgcymru.org.uk i gael cyngor a gwybodaeth.

Cynhelir sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Mercher, 21 Gorffennaf 2021, am 6.30pm - cofrestrwch cyn dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2021.

Gellir gwneud ymholiadau hefyd gydag aelod o'r tîm mabwysiadu - anfonwch neges e-bost at adoptionenquiries@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 0300 30 32 505.

* Newidiwyd enwau er mwyn diogelu manylion personol y plant.

16/06/2021