Lansiwyd Cysylltu â Charedigrwydd yn Hâf 2020 yn Sir Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro, gyda’r neges y gall gweithredoedd caredig wneud gwahaniaeth mawr. Y bwriad yw creu dealltwriaeth am les a dylanwad caredigrwydd arnom ni ein hunain, ac eraill yn ein cymuned.

Ar ddiwedd flwyddyn hynod anodd ond gan edrych ymlaen at flwyddyn arall, mae’r ymgyrch nawr yn lansio ei hysbyseb newydd. Gyda geiriau pwerus gan y Prifardd o Geredigion, Ceri Wyn Jones, ac wedi ei ffilmio ar leoliad yn y dair sir gan ddefnyddio talent lleol ar sgrîn, y gobaith yw fydd yr hysbyseb yn ysbrydoli gwylwyr i ymwneud ag ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd – ac uwchben dim, eu hybrydoli i wneud 2021 yn flwyddyn o garedigrwydd.

Mae tro da yn magu tro da ynom ni.

Mae’n guriad y galon. Mae’n dechrau ‘da ti.

Gall tro bach caredig ein dwyn ni ynghyd:

mae’n barod i rannu; mae’n ofal i gyd.

Nod yr ymgyrch yw dangos bod pob math o resymau dros fod yn garedig, gan gynnwys rhai gwyddonol. Mae unigolion yn cael budd, ynghyd â chymunedau. Bod yn garedig yw’r peth iawn i wneud, a does dim ots pa mor fychan yw’r weithred, gall gael effaith sylweddol, yn cysylltu, ysbrydoli ac amddiffyn.

Ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol yr ymgyrch, fe welwch pob math o straeon am unigolion hynod garedig ac ymroddedig sy’n gweithio yn ein cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau eraill. Tra bod gwirfoddoli neu ymwneud gyda rhyw grŵp neu elusen lleol yn addas i rai fel modd o ddangos caredigrwydd, mae’r pethau bychan hynny gallwn ni gyd wneud ym mhob agwedd o’n bywydau o ddydd i ddydd hefyd yn bwysig, fel bod yn feddyliol i eraill wrth yrru’r car a chodi llaw a gwên wrth fynd, galw heibio ar gymdogion, neu gwenu ar rywun ar y bws, gwneud paned i rywun yn y gwaith.   

Os hoffech drefnu cyfweliad gyda rhywun o’r tîm Cysylltu â Charedigrwydd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, er mwyn darganfod mwy am y modd o wneud 2021 yn flwyddyn o garedigrwydd, cysylltwch â ni ar 01545 574200.

Gall y tîm siarad am y ffordd mae’r ymgyrch yn lledaenu’r neges am garedigrwydd ac hefyd rhoi manylion ymarferol am y modd gall bobol ymuno yn eu hardaloedd lleol nhw. Mae Ceri Wyn Jones hefyd ar gael i siarad am y broses o ysgrifennu’r geiriau ar gyfer yr ymgyrch, a’r hyn mae caredigrwydd yn ei olygu iddo ef. 

21/12/2020