Ydych chi rhwng 11 a 25 oed â syniadau creadigol ar sut i roi delwedd newydd i Bromenâd Aberystwyth?

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a Thîm Economi ac Adfywio’r Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio cystadleuaeth dylunio, ble bydd y dyluniadau buddugol yn cael eu harddangos ar ddwy wal fawr sy’n wynebu’r glan y môr Aberystwyth. Bydd y gysgodfa, sydd aml yn denu fandaliaeth, yn cael ei lenwi gyda murlun mawr, lliwgar a fydd yn adlewyrchu treftadaeth Aberystwyth, a beth mae’r dref yn golygu i bobl ifanc.

Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gweithio gydag artist graffiti poblogaidd, Lloyd, i greu darn o gelf sy’n ddeniadol i bobl leol ac i dwristiaid. Yn ogystal â’r gystadleuaeth, bydd cyfle i bobl ifanc fod yn rhan o’r gweithdai i helpu creu’r darn celf yn y flwyddyn newydd. Croesawir pob math o ddyluniadau, a bydd panel yn dewis y dyluniadau buddugol ym mis Ionawr 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Mae’n hynod o bwysig bod barn pobl ifanc yn cael eu hystyried wrth i ni wneud penderfyniadau o fewn ein cymunedau, sy’n cynnig ymdeimlad o berchenogaeth a grym i bobl ifanc. Mae hyn yn gyfle cyffrous lle bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn hwyluso gweithdai i bobl ifanc o’r ysgolion uwchradd lleol a’r clybiau ieuenctid i greu murlun ar y promenâd yn Aberystwyth, gyda chefnogaeth gan artist proffesiynol. Felly, rydym yn annog pobl ifanc nid yn unig o Aberystwyth ond o bob rhan o Geredigion i rannu eu dyluniadau o’r hyn yr hoffent eu gweld yn yr ardal hon!”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn croesawu dyluniadau gan bobl ifanc rhwng 11-25 oed ar draws Ceredigion, ac yn gofyn i roi sylw arbennig i liw, ffont a delweddau sy’n cynrychioli Aberystwyth. Dylir y dyluniadau nodi enw, oedran a rhif cyswllt y crëwr. Mae modd cyflwyno eich dyluniadau neu syniadau i’r Gwasanaeth Ieuenctid drwy e-bostio youth@ceredigion.gov.uk neu dros neges breifat ar Facebook, Twitter neu Instagram @GICeredigionYS. Gallwch hefyd roi eich dyluniadau i’ch Gweithiwr Ieuenctid lleol ym mhob Ysgol Uwchradd neu Glybiau Ieuenctid y sir. Y cyfeiriad post i anfon y dyluniadau at yw; Ysgol Cwrtnewydd, Cwrtnewydd, Llanybydder, Ceredigion, SA40 9YW. Dyddiad cau ar gyfer dyluniadau yw Dydd Llun 7fed o Ionawr 2019.

Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth, mae croeso i chi ffonio’r Lowri Evans ar 01545572352.

 

11/12/2018