Mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth. Nod y gystadleuaeth ffotograffiaeth oedd portreadu’r cyfnod clo trwy lygaid pobl ifanc Ceredigion yn ogystal â rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgaredd rhithiol a mynegi eu profiadau personol o’r cyfnod clo.

Cyflwynwyd cyfanswm o 71 o ffotograffau yn rhan o’r gystadleuaeth. Tynnwyd y llun buddugol gan Emily Cameron ar draeth y de Aberystwyth ar 13 Mehefin.

Mae Emily sy’n 21 mlwydd oed yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Esboniodd Emily sut y tynnodd hi’r llun buddugol. “Roedd hi’n ddiwrnod heulog iawn ac roedd pawb yn mwynhau'r heulwen wrth gadw at ganllawiau'r llywodraeth. Edrychais ar draws y ffordd a gwelais y dyn yn y ffenestr yn gyntaf ac yna gwelais ddynes a dyn arall ar y palmant. Roeddwn i wrth fy modd o weld pa mor hapus roedden nhw'n edrych wrth fwynhau'r haul a'r cwmni, er ein bod ni mewn cyfnod rhyfedd ar hyn o bryd, lle na allwn fod llai na 2 fetr ar wahân.”

Soniodd Emily hefyd am ei phrofiad personol o’r cyfnod clo yng Ngheredigion. “Mae’r cyfnod clo yn Aberystwyth wedi teimlo’n rhyfedd iawn a bu naws iasol i’r dref. Er bod y cyfnod clo wedi bod yn gyfnod eithaf ofnus a phryderus, roedd yn anhygoel gweld sir gyfan yn gweithio gyda’i gilydd i gadw pellter cymdeithasol, dilyn rheolau’r cyfnod clo ac ati er mwyn atal lledaeniad covid-19, a thalodd hyn ar ei ganfed gyda rhai o'r niferoedd isaf o achosion yn y Deyrnas Unedig. Roeddwn i'n teimlo'n ddiogel yn Aberystwyth oherwydd pa mor dda yr oedd pawb yn cadw at y canllawiau ac rydw i'n edrych ymlaen at y diwrnod lle bydd popeth yn ôl i’r arfer a bydd Aberystwyth yn ôl i’r ffordd yr oedd.”

05/08/2020