Mae Thomas Evans, o Geredigion, wedi cael ei ddewis i ymuno â 10 person ifanc arall o ar draws Cymru, i eistedd ar Fwrdd Ieuenctid Cenedlaethol. Ffurfiodd y bwrdd i gefnogi Llywodraeth Cymru (LlC) i ddylunio ymagwedd ysgol gyfan tuag at les emosiynol ac iechyd meddwl.

Mae’r bwrdd yn cael ei arwain gan fudiadau ieuenctid cenedlaethol, Cymru Ifanc a ‘Together for Children and Young People’ (T4CYP). Bydd rôl Thomas ar y bwrdd yn cynnwys cynghori a chraffu’r tîm ymagwedd ysgol gyfan LlC a thîm T4CYP gyda datblygu a darparu gwasanaethau.

Dywedodd Thomas, disgybl Ysgol Uwchradd Aberaeron ac aelod brwd o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Fel unigolyn sydd wedi cael profiad gyda gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ac yn eiriolwr cyffredinol ar gyfer ymwybyddiaeth iechyd meddwl, mae cael y cyfle i eistedd ar fwrdd fel hyn yn freuddwyd i mi. Bydd y rôl hon yn caniatáu imi ddylanwadu'n bersonol ar ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl gyda'r gobaith o wella bywydau plant a phobl ifanc. Mae'r bwrdd hwn yn profi bod rhoi cyfle i bobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc yn beth llwyddiannus!"

Bydd y Bwrdd yn cwrdd â swyddogion LlC, Aelodau Cynulliad, swyddogion y Bwrdd Iechyd a ffigurau allweddol eraill megis y Comisiynydd Plant, er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl a lles emosiynol ar gyfer pobl ifanc ar draws Cymru. Bydd cyfle i Thomas roi adborth o ddatblygiadau’r bwrdd i bobl ifanc eraill trwy Gyngor Ieuenctid Ceredigion.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae'n hynod o bwysig bod pobl ifanc yn cael cyfle i fynegi eu barn ar faterion sy'n eu heffeithio, ac mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddylanwadu'n uniongyrchol a sicrhau bod yr ymagwedd sy’n cael ei gynllunio ar gyfer ysgolion yn wirioneddol yn gweithio i bobl ifanc. Dw i wedi cael y pleser o weithio gyda Thomas trwy waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a Chyngor Ieuenctid Ceredigion ac rwy’n hynod o falch o beth mae e wedi cyflawni. Ar ran y cyngor, dw i’n dymuno pob lwc iddo yn ei rôl newydd fel cynrychiolydd o Geredigion a fydd yn dylanwadu ar bolisi a rhaglen waith Llywodraeth Cymru i gefnogi'r agenda iechyd meddwl a lles yng Nghymru."

Ffurfiodd y Bwrdd Ieuenctid Cenedlaethol yn dilyn argymhellion cafodd eu gwneud i Lywodraeth Cymru o’r adroddiad ‘Cadernid Meddwl’. Roedd yr adroddiad, a edrychodd mewn i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn nodi'r angen am bwyslais cryfach ar ymyrraeth gynnar a meithrin gwydnwch emosiynol.

 

14/02/2019