Bernir bod Ysgol Penweddig wedi gwneud ‘cynnydd boddhaol' i fynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed ar ôl arolygiad a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2017. O ganlyniad, mae'r ysgol wedi cael ei thynnu oddi ar y rhestr o ysgolion y mae angen adolygiad Estyn arnyn nhw.

Ychwanegodd Mark Rees, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Penweddig, “Hoffwn ddiolch i holl staff Ysgol Penweddig am eu cymorth parhaus yn ein hymdrechion i wella safonau addysgu yn yr ysgol. Rwy'n falch iawn bod Estyn wedi cydnabod ein hymdrechion.”

Ni fydd gwaith monitro pellach yn cael ei gynnal mewn perthynas â'r arolygiad o ystyried y cynnydd sydd eisoes wedi ei wneud.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd: “Mae'r newyddion yma i’w groesawu ac yn dangos bod gwaith caled myfyrwyr a staff yn gwella safonau yn Ysgol Penweddig. Rwy'n siŵr y bydd nodi'r cynnydd a wneir yn helpu'r ysgol i gryfhau ymhellach fyth.”

 

11/04/2019