Bydd adroddiad perfformiad sy’n amlinellu’r cynnydd tuag at gyrraedd Amcanion Llesiant a Gwella Cyngor Sir Ceredigion yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor a’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2018.

Roedd yr Amcanion Llesiant a Gwella ar gyfer 2017-18 yn cynnwys;
• creu cyfleoedd i wella’r economi leol a rhagolygon ar gyfer swyddi trwy gymunedau cynaliadwy;
• hyrwyddo cydnerthedd unigol a chymunedol i oedolion,
• i wella canlyniadau teuluoedd a phlant o ran eu llesiant, eu hiechyd a'u gallu i gyrraedd eu potensial addysgol;
• i wella argaeledd cartrefi diogel, fforddiadwy a chymunedau mwy diogel
• i fanteisio i'r eithaf ar fuddion ein diwylliant a'r amgylchedd i ddatblygu dyfodol cynaliadwy.

Mae’r adroddiad yn nodi asesiad y Cyngor o gynnydd yn erbyn tri amcan fel da a dau fel boddhaol.

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn helpu'r Cyngor i gyrraedd amcanion sy'n gysylltiedig â gwella'r economi leol a rhagolygon ar gyfer swyddi gyda chynnydd sylweddol tuag at sicrhau Bargen Twf ar gyfer y rhanbarth.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi gweithredu mesurau ymyrraeth gynnar ac atal wrth ddatblygu Gwasanaethau Integredig sy'n cynnwys y trydydd sector a gwasanaethau cymunedol symud ymlaen a chaiff cynnydd da ei adrodd ar wella stoc tai’r Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor â chyfrifoldeb am Bolisi a Pherfformiad, Partneriaethau a Gwasanaethau Democrataidd, “Rwy’n falch bod y Cyngor yn parhau i gyflawni yn erbyn ei flaenoriaethau er gwaethaf y cyllidebau sy’n lleihau. Rhaid i'r Cyngor barhau i yrru agenda Tyfu Canolbarth Cymru ymlaen i ddenu mewnfuddsoddiad a hybu'r economi ar gyfer y Sir yn ogystal â gweithredu gwasanaethau integredig i sicrhau bod ein dinasyddion yn parhau i dderbyn y canlyniadau gorau yn awr ac yn y dyfodol.”

Mae prosiect ‘Dulliau Newydd’ Amgueddfa Ceredigion wedi cynyddu fynediad y cyhoedd a gwerthfawrogiad ar gyfer treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol Ceredigion yn sylweddol yn ystod y flwyddyn gan ennill Gwobr Sgiliau Creadigol a Diwylliannol y DU 2018 ar gyfer ‘Amgueddfeydd a Threftadaeth’.

Mae'r Cyngor yn y cyfnodau cynnar o ran cyflawni yn erbyn y Blaenoriaethau Corfforaethol a nodwyd yn Strategaeth Gorfforaethol 2017-2022. Y blaenoriaethau yw Hybu’r Economi, Buddsoddi yn Nyfodol y Bobl, Galluogi Cydnerthedd Unigolion a Theuluoedd a Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol.

15/10/2018