Ymwelodd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Steve Brooks â gwaith i’r Rhwydwaith Teithio Llesol Aberystwyth ar 26 Medi. Datblygwyd y rhwydwaith o welliannau ar gyfer cerddwyr ac o ran beicio a hygyrchedd cyffredinol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Sustrans.

Fe gwrddodd Mr Brooks â’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Hyrwyddwr Cynaliadwyedd yn ogystal â swyddogion y Cyngor. Yn ystod yr ymweliad, trafodwyd y gwaith sydd wedi cael ei wneud cyn belled, a gwaith i wella’r Rhwydwaith Teithio Llesol yng Ngheredigion.

Canmolodd y Cynghorydd Alun Williams y gwaith a wnaed hyd yn hyn, “Roedd yn bleser cwrdd â chydweithwyr o Sustrans a swyddogion y Cyngor Sir. Dangoswyd y gwaith ardderchog y mae'r Cyngor Sir wedi'i wneud hyd yn hyn yn Aberystwyth gyda'r nod o annog plant i feicio, defnyddio sgwter a cherdded i'r ysgol. Wrth gwrs, mae'r gwelliannau o fudd i bawb yn y gymuned trwy helpu i annog ffyrdd iachach a mwy heini o fyw wrth leihau tagfeydd traffig a chawsom drafodaeth ddefnyddiol am ddatblygu mentrau teithio llesol ymhellach ledled Ceredigion.”

Mae tair tref yng Ngheredigion wedi'u dynodi'n Aneddiadau Teithio Llesol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod 2017 i nodi a blaenoriaethu gwelliannau'r dyfodol. O ganlyniad, mae llwybrau cerdded a beicio yn cael eu gwella'n raddol trwy grantiau amrywiol Llywodraeth Cymru fel y mae cyllid yn caniatáu ac yn amodol ar gyfyngiadau ffisegol.

Dywedodd Steve Brooks, “Mae Ysgol Gynradd Plascrug yn un o lawer o ysgolion yng Ngheredigion lle cyflenwir rhaglen Teithiau Llesol Sustrans ac mae’n wych gweld y gwahaniaeth cadarnhaol a wnaed yn y lleoliadau hyn, ar y cyd â llwybrau gwell a llochesi sgwteri a beiciau newydd a osodir gan y Cyngor Sir yn dilyn cyllid grant llwyddiannus gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen yn cynnwys gweithgareddau ystafell ddosbarth lle gall disgyblion helpu i ddylanwadu ar geisiadau grant yn y dyfodol ac mae hefyd yn cynnwys ystod o weithgareddau sy’n helpu i adeiladu'r hyder, y brwdfrydedd a'r sgiliau sydd eu hangen i helpu i ffurfio arferion teithio llesol newydd. Mae'r gweithgareddau a'r gwersi hyn yn cefnogi ymdrechion ysgolion i ennill gwobrau Eco-Sgolion ac Ysgolion Iach yn ogystal â gweithio tuag at wobr Nod Ysgol Sustrans sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn teithio cynaliadwy.”

Mae'r Cyngor hefyd yn gwella cyfleoedd teithio llesol y tu allan i'r tri aneddiad hyn, megis ger ysgolion, safleoedd cyflogaeth a chyrchfannau twristiaid allweddol. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr Adroddiad Teithio Llesol Blynyddol diweddaraf ar gyfer Ceredigion, ar gael yma: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol/.

17/10/2018