Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar amodau trwyddedu ar gyfer sefydliadau bridio cŵn yn y cartref yng Ngheredigion. Dyma gyfle i unigolion i gynnig adborth ar amodau trwyddedu ar gyfer sefydliadau bridio yn y cartref a osodir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Gareth Lloyd, “Mae lles anifeiliaid yn bwysig iawn yng Ngheredigion; boed hynny at ddibenion amaethyddol neu fel anifeiliaid anwes y teulu. Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i adeiladu ar amodau trwyddedu bridio cŵn y Cyngor.”

Bydd adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad yn mynd gerbron y Pwyllgor Trwyddedu, ynghyd ag argymhelliad y dylid cymeradwyo’r amodau safonol newydd. Os mabwysiadir yr amodau hynny, byddant yn dod i rym ar unwaith.

Mae gwybodaeth am amodau trwyddedu ar gyfer sefydliadau bridio cŵn yn y cartref ar gael ar wefan y Cyngor ar https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau. Gellir anfon ymatebion i’r ymgynghoriad i trwyddedu@ceredigion.gov.uk.

Fel arall, mae copïau papur o’r ymgynghoriad ar gael yn swyddfeydd y Cyngor a llyfrgelloedd ledled Ceredigion. Gellir dychwelyd y copïau yma trwy’r post i Y Tîm Trwyddedu, Polisi a Pherfformiad, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa,
Aberaeron, SA46 0PA.

Gellir anfon cwestiynnau am yr ymgynghoriad yma i trwyddedu@ceredigion.gov.uk neu trwy alw Canolfan Gyswllt Clic Ceredigion ar 01545 570 881. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 14 Medi 2018.

28/08/2018