Oes gennych chi syniad a arweinir gan y gymuned a allai wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion? Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi yn gofyn i drigolion, grwpiau lleol a sefydliadau i anfon eu syniadau i mewn erbyn Dydd Llun, 24 Mehefin.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cynnal y Cardi wedi cefnogi 43 o syniadau a arweinir gan y gymuned wledig gwerth £1.2m.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd ef, “Rwy'n falch iawn o glywed am y cynnydd a wnaed gan y prosiectau a gymeradwywyd gan Gynnal y Cardi dros y blynyddoedd diwethaf. Dechreuodd pob prosiect fel syniad; awydd unigolyn neu grŵp i ddatblygu economi eu cymuned wledig leol. Mae'r canlyniadau'n profi y gellir cyflawni llawer trwy weledigaeth ac ymrwymiad ar y cyd.”

Mae Cynnal y Cardi, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion, wedi helpu i wireddu syniadau trwy ddatblygu prosiectau, gwerthuso, astudiaethau dichonoldeb, hwyluso, hyfforddi, mentora, ymgynghori a phrosiectau peilot. Mae pob prosiect yn dod o dan bum maes gweithgarwch o fewn cynllun LEADER. Mae'r ardaloedd yn cynnwys:

  • gwella adnoddau naturiol a diwylliannol Ceredigion
  • treialu cynnyrch / prosesau a chreu partneriaethau a rhwydweithiau busnes newydd
  • archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau a gweithgareddau
  • archwilio cyfleoedd ynni adnewyddadwy
  • gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol mewn cymunedau lleol.

Cynorthwyir LEADER, sy'n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu sialensiau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu, trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Aeth y Cynghorydd Evans ymlaen i ddweud “Rydym yn gobeithio y bydd yr alwad hon am syniadau am brosiectau yn parhau i wella gallu cymunedau gwledig, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu economi wledig Ceredigion. P'un a yw'n brosiect peilot neu'n astudiaeth ddichonoldeb y mae angen ei gefnogi a'i ddatblygu – Mae'n gam cadarnhaol i'r cyfeiriad iawn i Geredigion gryfach.”

I drafod eich syniadau ac am wybodaeth ynghylch bod yn gymwys am gefnogaeth, cysylltwch â thîm Cynnal y Cardi ar 01545 572063 neu ewch i www.cynnalycardi.org.uk. Y dyddiadau cau yn 2019 ar gyfer cyflwyno syniadau neu ddatganiadau o ddiddordeb yw 24 Mehefin, 9 Medi a 11 Tachwedd.

04/06/2019