I gyd-fynd gyda Gemau'r Gymanwlad, cynhaliwyd Gemau Chwarae Unedig Ceredigion ar 25 Ebrill ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nod y prosiect Chwarae Unedig yw annog pobl ifanc sydd â nam deallusol i gymryd mwy o ran mewn sesiynau gweithgaredd corfforol wythnosol ac i ddatblygu eu sgiliau arwain.

Rhoddwyd y cyfle i'r disgyblion gymryd rhan mewn tri digwyddiad trac a tri digwyddiad maes mewn amgylchedd diogel a chymdeithasol. Bu'r Llysgenhadon Ifanc yn gweithio gyda hyfforddwyr Ceredigion Actif i gynllunio a pharatoi'r diwrnod.

Cychwynnodd Ceredigion Actif y prosiect Chwarae Unedig yng Ngheredigion ym mis Medi 2016. Mae pum ysgol uwchradd yn rhan o'r prosiect ar draws y sir, sef Ysgol Penglais; Ysgol Penweddig; Ysgol Uwchradd Aberaeron; Ysgol Bro Pedr; ac Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Darperir sesiynau wythnosol yn ystod amser cinio/amser ysgol ac yna fe anogir y plant i fynychu sesiynau Pobl Ifanc Egnïol a chlybiau cymunedol. Mae 12 Llysgennad Ifanc â nam wedi eu nodi sy’n paratoi a chyflwyno'r sesiynau wythnosol gyda thua 52 o blant gyda nam.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Eiriolwr ar gyfer Cydraddoldeb, “Mae prosiect Chwarae Unedig yn bwysig iawn i ddatblygu arweinwyr ifanc â nam ac i hyrwyddo cymryd rhan mewn sesiynau gweithgarwch corfforol rheolaidd a rhaglenni strwythuredig. Y prosiect hwn yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn chwaraeon. Mae dathlu'r prosiect gyda Gemau Chwarae Unedig Ceredigion yn gam gwych i sicrhau bod chwaraeon ar gael i unrhyw un gymryd rhan ac i’w fwynhau.”

Mae Ysgolion Penglais a Bro Pedr wedi gweithio gyda'i gilydd i gynnal sesiynau lle mae'r Llysgenhadon Ifanc yn cynllunio ac yn cyflwyno'r sesiwn i bawb sy'n gysylltiedig.

Lluniau
• Inffograffig yn dangos darlun o brosiect Chwarae Unedig.
• Un o’r grŵpiau yn cystadlu yng Ngemau Chwarae Unedig Ceredigion.

17/05/2018