Daeth busnesau bychain ardal Aberteifi at ei gilydd ar gyfer digwyddiad arbennig ddydd Iau, 4 Hydref 2018. Roedd y Ffair Fusnes yn gyfle i rwydweithio, dysgu wrth ei gilydd a rhannu profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg mewn Busnes.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, “Gyda bwrlwm Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 ar fin dechrau, roedd yn galonogol gweld busnesau'r sir yn dod at ei gilydd i ddysgu sut i farchnata’n effeithiol ac i hybu’r Gymraeg ym myd busnes. Roedd yn braf gweld trafodaeth onest am yr heriau sy'n wynebu busnesau ac roedd hefyd yn hyfryd clywed pa mor llwyddiannus mae busnesau wrth ddefnyddio'r Gymraeg.”

Yn cael ei gynnal yng Nghastell Aberteifi, cafwyd cyflwyniad difyr gan Huw Marshall o gwmni Yr Awr Gymraeg. Bu Huw yn trafod y cyfleoedd positif mae’r Gymraeg yn gallu cynnig i fusnesau lleol trwy ei ddefnyddio ac sy’n rhoi hwb i’r busnes a’r economi.

Yn ôl Kerry Ferguson, roedd y digwyddiad yn “werthfawr tu hwnt. Roedd y panel yn dangos bod budd defnyddio’r iaith Gymraeg mewn busnes, a hefyd bod digon o gefnogaeth ar gael – dim jest rhwng mudiadau gwahanol, ond busnesau hefyd. Byddwn heb os yn awgrymu i fusnesau Ceredigion fynychu’r digwyddiad nesaf!”

Ategwyd hyn gan Rosalind Robinson, a ddywedodd, “roedd sgwrs Huw yn ddefnyddiol tu hwnt yn enwedig pa mor ddeniadol ydy’r Gymraeg mewn busnes i bobl ddi-Gymraeg. Fel dysgwraig, cefais gyfle gwych yn ystod y diwrnod i ymarfer (a gwella) fy Nghymraeg.

Clywyd trafodaeth agored gan banel o fusnesau wrth iddynt son am yr heriau o ddefnyddio’r Gymraeg mewn busnes a hefyd rhannu arfer dda. Cadeiriwyd y panel gan Keith Henson (Coleg Ceredigion) ac aelodau’r panel oedd Dwynwen Davies (Meithrinfa Y Dyfodol), Angharad Williams (Lan Llofft), Sioned Thomas (Ffenestri Kevin Thomas), Kerry Ferguson (Gwe Cambrian) a Huw Marshall (Yr Awr Gymraeg).

Yn ystod y dydd, cafwyd cyfle i ymweld â llu o stondinau gwybodaeth gan gynnwys Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Hyfforddiant Ceredigion, Cynnal y Cardi, Busnes Cymru, Antur Teifi, Comisiynydd y Gymraeg, Coleg Ceredigion a Cymraeg Byd Busnes.

Dywedodd Non Davies, Rheolwr Cered, “Bu’r diwrnod yn gyfle gwych i ddod a busnesau at ei gilydd nid yn unig i gael cyngor a chyfarwyddid ond hefyd i drafod yr heriau sy’n eu hwynebu o ran eu defnydd o’r Gymraeg. Cafwyd trafodaeth onest ac ysbrydoledig gyda nifer o arferion da ynghyd a syniadau i’r dyfodol yn cael eu hamlygu. Mae swyddogion prosiect Cymraeg yn y Gweithle Cered yn parhau i ymweld â busnesau ar hyd y sir ac mae croeso i unrhyw un gysylltu â ni i drefnu ymweliad am ddim.”

Os ydych yn fusnes a fyddai o ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth neu gymorth, cysylltwch â’r Swyddogion Busnes Menter Iaith Cered, sef Pat Jones neu Owain Llyr ar 01545 572350.

Mae prosiect ‘Cymraeg yn y Gweithle’ wedi cael cefnogaeth LEADER drwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion) a ariennir drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Llun: Y Panel Huw Marshall, Yr Awr Gymraeg; Kerry Ferguson, Gwe Cambrian Web; Dwynwen Davies, Meithrinfa y Dyfodol; Sioned Thomas, Ffenestri Kevin Thomas ac Angharad Williams, Lan Lofft wedi ei gadeirio gan Keith Henson, Coleg Ceredigion. 

19/10/2018