Cynhaliwyd Cynhadledd Safonau Cymru 2018 yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 14 Medi 2018.

Wedi ei gynnal ar y cyd rhwng Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys, roedd y Gynhadledd yn agored i gynrychiolwyr o Bwyllgorau Safonau a Moeseg Awdurdodau Lleol Cymru, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau’r Heddlu, Awdurdodau Tân ac Achub, Parciau Cenedlaethol Cymru a sefydliadau perthnasol eraill.

Y Prif Siaradwr gwadd oedd Mr Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd Claire Sharp, Llywydd Panel Dyfarnu Cymru ac Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion hefyd yn annerch y gynhadledd.

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’n bleser croesawu cynrychiolwyr o bob cwr o Gymru i Geredigion i’r Gynhadledd Safonau. Yn y cyfnod o newid hwn, mae cael y cyfle i ddod at ein gilydd a chlywed siaradwyr fel Nick Bennett a Claire Sharp yn gyfle ardderchog i rannu arferion da a chysoni disgwyliadau ar gyfer safonau moesegol uchel cyson ledled Cymru.”

Cynhelir y Gynhadledd tua bob tair blynedd ar draws Cymru, yn nhrefn y Gogledd, y Canolbarth a’r de.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Safonau a Moeseg Ceredigion, Hywel Wyn Jones, “Rhan bwysig o gynnal safonau ymhlith Aelodau o gynghorau lleol yw hyfforddi a gwneud yn siŵr fod pawb yn deall y canllawiau. Mae cynhadledd fel hon wedi bod yn gyfle buddiol i drafod, ac i rannu gwybodaeth am ymarferion da ar draws Cymru gyfan. Yma yng Ngheredigion y cynhaliwyd y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar Safonau, ddeng mlynedd yn ôl, ac roedd yn dda ei chael yn ôl eto eleni”.

Cafwyd sesiynau gweithdai yn ystod y dydd, gyda thrafodaethau amrywiol a diddorol ar bynciau megis bwlio a’r cyfryngau cymdeithasol, materion ymarferol yn ymwneud â gwrandawiadau safonau, rhannu arfer da ac ystyried y drefn yma yng Nghymru ochr yn ochr â’r hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill.

Dywedodd yr Aelod Annibynnol Helen Rhydderch-Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Powys: “Hoffwn ddiolch i gydweithwyr yng Nghyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys am eu hamser a'u hymdrech i gynnal cynhadledd bwysig a llwyddiannus.

“Mae'n hollbwysig i bawb sydd mewn gwasanaeth cyhoeddus ddeall a chydymffurfio â Chod Ymddygiad yn eu gwaith ac mae'r gynhadledd hon wedi helpu cynrychiolwyr yr holl gyrff perthnasol i gymharu eu dulliau a'u syniadau, cyfle sy’n bosibl mewn amgylchedd o'r fath yn unig.”

14/09/2018