Fe wnaeth Pwerdy Iaith Aberaeron gynnal Cwis Zoom Aberaeron ar Nos Fercher 11 Mehefin er mwyn codi hwyliau’r gymdogaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Pwerdy iaith Aberaeron wedi bod yn trefnu digwyddiadau er mwyn bywiogi bywyd Cymraeg yr ardal. Gyda chefnogaeth Cered maent wedi trefnu nifer o gigs llwyddiannus gyda sêr mawr fel Huw Chiswell, Cleif Harpwood a Heather Jones yn denu torfeydd swmpus i Neuadd Goffa Aberaeron.

Er nad oes modd trefnu gigs tebyg am y tro roedd Pwerdy Iaith Aberaeron yn awyddus i arbrofi gyda ffyrdd digidol o gynnal bwrlwm Cymraeg y dref a’r cyffiniau ac aethpwyd ati i drefnu Cwis Zoom Aberaeron.

Gwnaeth 12 tîm o Aberaeron a’r pentrefi cyfagos gymryd rhan ac fe wnaeth dau o Gymry alltud yr ardal hefyd gymryd rhan o’u cartrefi yn Llundain a Lwcsembwrg.

Dan ofalaeth y cwisfeistr campus Mr. Cynfael Lake cafwyd chwe rownd o gwestiynau amrywiol ar bynciau oedd yn cynnwys bwyd a diod, dail, chwaraeon ac enwogion o Geredigion.

Yn fuddugol gyda 38 pwynt allan o 48 roedd tîm Almora sef tîm Llywydd y Senedd Elin Jones AS. Yn ail ar 37 pwynt roedd G&M Quizzes Mr a Mrs. Mair Jones ac yn drydydd ar 32 pwynt roedd tîm Dim Gwin Mr. Rhodri Jones a’r teulu.

Mae’r adborth wedi bod yn bositif iawn ac mae Pwerdy Iaith Aberaeron yn awyddus i glywed gan drigolion yr ardal pa fath o ddigwyddiadau cymunedol ar-lein Cymraeg eu hiaith fyddai o ddiddordeb. Os oes ganddoch chi adborth neu syniadau cysylltwch gyda Swyddog Datblygu Cymunedol Cered, Steffan Rees ar Steffan.rees@ceredigion.gov.uk.

12/06/2020