Bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn y dyfodol agos i gasglu gwybodaeth a ffeithiau am ddarpariaeth addysg ôl-16 yng Ngheredigion.

Bydd yr adolygiad yn cyd-fynd â’r diwygiadau a ddaw yn sgîl sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY), sy’n gyfrifol am oruchwylio’r sector ôl-16 yng Nghymru, ynghyd ag argymhellion Adolygiad Thematig Estyn ar bartneriaethau ôl-16.

Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf o’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion yn 2007-2008, felly cytunwyd yng nghyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd yn rhithiol ar 11 Ionawr 2022 y byddai’n amserol cynnal adolygiad pellach.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Mae’n amserol cynnal adolygiad i’r ddarpariaeth ôl-16 i gasglu ffeithiau a safbwyntiau o ran yr hyn sy’n gweithio a’r hyn y gellir ei ddatblygu.”

Nodwyd bod 701 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 13 yn holl ysgolion Ceredigion ym mis Ionawr 2020. Ychwanegwyd hefyd fod llai na 5 disgybl yn dilyn 51 o’r 199 cwrs Safon Uwch a ddarperir yn ysgolion Ceredigion yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-2022.

11/01/2022