Bydd y cyngor yn cyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer dau brosiect gwyrdd yn Llambed ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo cyflwyno'r cynlluniau ar 28 Ionawr 2020. Bydd y cynlluniau'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Datblygwyd hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’n ddiweddar bod ‘Cronfa Seilwaith Gwyrdd’ gwerth £5m ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru i wneud cais i.

Mae Seilwaith Gwyrdd yn egwyddor dylunio lle caiff gwyrddni a llystyfiant eu rhoi mewn ardaloedd adeiledig i gynyddu gwyrddu ardaloedd trefol. Yn ogystal â sicrhau nad yw ardaloedd trefol yn gorboethi, lleihau faint o ddŵr sy’n llifo oddi ar y tir a chynyddu lles trigolion.

Un o'r prosiectau arfaethedig yw 'Coridor Gwyrdd Llanbedr Pont Steffan’ sy'n cynnwys gwella llwybr troed - mynediad i bawb, sy'n cysylltu'r Gogledd a'r De o'r dref drwy'r Brifysgol. Y cynllun arfaethedig arall yw ‘Blaenoriaethu Cerddwyr ar Stryd y Farchnad' a fyddai'n gweld mannau o’r dref yn datblygu fel system draeniad cynaliadwy newydd, plannu coed, seddi a mannau ar gyfer stondinau farchnad a stondinau gwib. 

Rhodri Evans yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd, "Mae'r buddsoddiad hwn yn Llambed yn dangos sut y gall buddsoddiadau mewn seilwaith gwyrdd helpu ein hamgylchedd a bod yn fuddiol iawn i'r dref. Yn ogystal â gwella hygyrchedd i gerddwyr, mae ganddo'r potensial i ddod â mwy o fusnes i mewn i'r dref gyda stondinau marchnad a stondinau gwib.”

Mae'r penderfyniad hwn yn cefnogi blaenoriaethau corfforaethol y cyngor o Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol a Hybu'r Economi.

31/01/2020