Gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, mae Ceredigion yn ailagor mewn modd gofalus, araf a diogel.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu ei Gynllun Addasu a Chydnerthedd Hirdymor, ac mae asesiadau risg yn cael eu cynnal cyn i unrhyw wasanaeth ailddechrau. Mae Cynllun o ran sut a phryd y bydd pethau’n ailagor yn cael ei ddiweddaru’n wythnosol. Bydd y broses o lacio’r cyfyngiadau symud yn cael ei hystyried yn ofalus iawn, a bydd gwasanaethau’n cael eu cynnwys ar y Cynllun unwaith y byddent wedi cael eu hystyried. Mae Cynllun y Ffordd Ymlaen ar gael i’w ddarllen ar y wefan.

Rydym yn symud tuag at ‘normal newydd’. Mae hyn yn cael ei wneud yn araf er mwyn sicrhau bod nifer yr achosion o’r Coronafeirws yn aros yn isel ac er mwyn sicrhau diogelwch pawb.

Mae’r Cyngor felly yn gweithredu dull pwyllog iawn o ailagor y sir gan gadw o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i’w cefnogi wrth iddynt ailagor.

Mae llyfrgelloedd, Safleoedd Gwastraff Cartref, siopau ac ysgolion i gyd wedi ailagor mewn ffordd strwythuredig a reolir yn ofalus.

Nid yw bygythiad y Coronafeirws wedi diflannu. Dilynwch y canllawiau a cheisiwch aros mor lleol â phosib i aros yn ddiogel a chefnogi busnesau lleol.

Am wybodaeth sy’n ymwneud â’r Coronafeirws, ewch i wefan y Cyngor yma.

30/06/2020