Bydd cyfnod ymgynghori yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr hydref eleni i gynyddu nifer y disgyblion yng Ngheredigion a fydd yn gallu datblygu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet, a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Mawrth, 15 Mehefin 2021, trafododd yr aelodau Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-2032. Mae’r cynllun yn strategaeth ddeng mlynedd sy’n nodi’r gofynion i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cytunodd yr Aelodau Cabinet i gynnal cyfnod ymgynghori yn ystod tymor yr hydref 2021 am wyth wythnos i gynnwys safbwyntiau disgyblion, rhieni, ysgolion a chyrff llywodraethu.

Mae’r strategaeth yn cynnwys nodau yn ymwneud â chynyddu nifer y disgyblion oed meithrin a derbyn mewn addysg cyfrwng Cymraeg; annog mwy o ddysgwyr i astudio’r Gymraeg fel pwnc a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg; cynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a chynyddu nifer y staff sy’n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn atgyfnerthu dyhead Cyngor Sir Ceredigion i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg mewn addysg trwy ei Strategaeth Iaith. Rwy’n falch gweld y bydd cyfnod ymgynghori yn cael ei gynnal yn yr hydref eleni i wyntyllu syniadau er mwyn cynllunio a datblygu’r addysg cyfrwng Cymraeg yn ein sir.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rwy’n croesawu’r ddogfen ddrafft hon sy’n anelu at greu rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion ledled y sir fanteisio i’r eithaf ar addysg cyfrwng Cymraeg.”

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr adborth yn cael ei ystyried a’r cynllun yn cael ei gyflwyno nôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac yna i’r Cyngor llawn ar gyfer ystyriaeth a phenderfyniad terfynol. Mae’r cynnig hwn yn cefnogi Amcanion Strategol y Cyngor a Strategaeth Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gan Lywodraeth Cymru.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan.

 

15/06/2021