Mae Cynllun Rheoli Carbon newydd ac uchelgeisiol yn targedu gostyngiad o 15% mewn allyriadau erbyn 2023. Cymeradwywyd y cynllun i leihau allyriadau Cyngor Sir Ceredigion gan Gabinet y cyngor ar 11 Mehefin 2019.

Mae'r cynllun yn nodi cynllun gweithredu ar gyfer lleihau allyriadau carbon dros y pum mlynedd nesaf. Dyma'r drydedd cynllun rheoli carbon pum mlynedd i'w gyflawni gan y cyngor.

Mae'r cynllun diweddaraf yn rhestru nifer o brosiectau y bydd y cyngor gweithredu yn ystod y pum mlynedd nesaf. Maent yn cynnwys:

  • Adeiladu ar waith blaenorol o wneud adeiladau yn fwy effeithlon o ran ynni
  • Cyflwyno mwy o oleuadau stryd LED-effeithlon sy'n arbed ynni
  • Cynyddu cynhyrchu ynni trwy fwy o baneli solar ffoto-foltaidd
  • Gwella systemau gwresogi yn ysgolion Ceredigion ac edrych ar gynlluniau gwresogi rhanbarthol biomas ar gyfer yn y sir
  • Buddsoddi mewn fflyd newydd o gerbydau cyngor sy'n fwy ynni-effeithlon.

Y Cynghorydd Alun Williams yw Hyrwyddwr Cynaliadwyedd y cyngor. Dywedodd, “Mae'r cyngor wedi lleihau ei allyriadau carbon 45% ers 2007/8, sy'n ostyngiad o dros 7,000 tunnell o CO2. Mae hyn yn gamp aruthrol ond, gyda gwyddonwyr y byd yn mynegi pryder parhaus am y newid yn yr hinsawdd, mae'n bwysig ein bod yn parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.”

"Mae'r cyngor wedi buddsoddi £2.1m mewn mentrau ynni adnewyddadwy ac arbed ynni dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi arwain at arbedion cost gronnol o £4.2m, sy'n dangos, yn ogystal â helpu'r blaned, bod y mentrau hyn hefyd yn gallu arbed swm sylweddol o arian a all helpu i gynnal gwasanaethau'r cyngor yn ystod y cyfnod hwn o lymder.”

Mae penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo'r cynllun rheoli carbon yn helpu'r cyngor i gyflawni blaenoriaeth gorfforaethol o Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol.

 

12/06/2019