Mae cynllun peilot newydd yn cael ei dreialu gan Gyngor Sir Ceredigion i ddarparu cyfleoedd i bobl leol gael eu troed ar yr ysgol eiddo trwy brynu llain o dir am bris gostyngol.

Mae darn o dir y Cyngor wedi'i nodi ym Mharc yr Hydd, Ciliau Aeron. Bydd hwn ar gyfer cynllun prawf newydd lle bydd y Cyngor yn cynnig dwy lain (yn amodol ar y caniatâd cynllunio angenrheidiol) am amcanbris gostyngol o £25,000 y llain i bobl leol a hoffai gael eu troed ar yr ysgol eiddo ac adeiladu eu cartref eu hunain.

Bydd y lleiniau’n rhan o Gynllun Eiddo Fforddiadwy gyda Gostyngiad wrth Werthu yr Awdurdod Lleol. Er eglurder, ni fyddai hyn yn rhan o fenter Hunanadeiladu Llywodraeth Cymru, na'r cynllun Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae'r Cyngor yn ceisio mesur y diddordeb cychwynnol yng ngwerthiant y ddwy lain hunanadeiladu fforddiadwy hyn yn y dyfodol. Nod y dull hwn yw helpu i ddarparu cartrefi cychwynnol lleol i bobl gael eu troed ar yr ysgol eiddo. Os byddant yn boblogaidd ac os dangosir bod angen trwy'r cynllun peilot hwn, gellid ystyried strategaeth arfaethedig a'i chyflwyno ar safleoedd eraill sy'n eiddo i'r Cyngor.

Bydd angen i'r darpar brynwyr fodloni'r meini prawf tai fforddiadwy canlynol:

  1. Cymhwyster Ariannol:
  • Gallu (cyfunol) i fenthyca dim mwy na'r swm sy'n ofynnol i brynu'r eiddo am ei bris gostyngol ynghyd â 10% o'r pris hwnnw.
  1. Cymhwyster Preswylio:
  • Cysylltiad lleol yn yr ystyr bod yn rhaid i’r ymgeisydd, ar ryw adeg yn ei fywyd, fod wedi byw yng Ngheredigion neu ardal cyngor tref/cymuned gyfagos (neu gyfuniad o'r ddau) am gyfnod parhaus o 5 mlynedd. Neu
  • Angen byw yng Ngheredigion i ofalu'n sylweddol am berthynas agos neu dderbyn gofal ganddynt. Neu
  • Angen bod yng Ngheredigion at ddibenion cyflogaeth fel gweithiwr allweddol ar sail barhaol, amser llawn.
  1. Meddiannu fel Unig Breswylfa:
  • Bydd disgwyl i'r ymgeisydd feddiannu'r eiddo fel ei unig breswylfa a bydd yn ofynnol iddo gadarnhau nad yw'n berchen ar eiddo preswyl arall.

Mae'r meini prawf Tai Fforddiadwy a pholisi S05 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gael i'w darllen yn llawn ar wefan y Cyngor: Y Cynllun Datblygu Lleol

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl leol fynegi eu diddordeb yn y ddwy lain hunanadeiladu ar wahân yng Nghiliau Aeron. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i bobl leol gael eu troed ar yr ysgol eiddo drwy adeiladu eu cartref eu hunain. Nid yn aml y mae cyfleoedd fel y rhain yn codi, ac rwy'n mawr obeithio y gellir defnyddio'r darn hwn o dir sy'n eiddo i'r Cyngor i'w lawn botensial a sicrhau dau gartref cychwynnol i drigolion Ceredigion."

Os hoffech fynegi diddordeb cynnar, llenwch y ffurflen fer sydd i'w gweld ar ein gwefan yma: Ffurflen Mynegi Diddordeb. Gallwch gyflwyno'r ffurflen Mynegi Diddordeb drwy ei hanfon drwy e-bost at: affordableplots@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01545 570881 i gael rhagor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni Mynegi Diddordeb yw dydd Gwener 26 Chwefror 2021.

 

26/01/2021